Philip Weekes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Balwen76 (sgwrs | cyfraniadau) Creu tudalen sgerbwd |
Balwen76 (sgwrs | cyfraniadau) Ychwanegu testun |

Llinell 1:
Roedd '''Philip Gordon Weekes''' CBE (12 Mehefin 1920 – 26 Mehefin 2003) yn beiriannydd mwyngloddio o Gymru. Fel rheolwr [[maes glo De Cymru]], chwareodd Weeks rôl bwysig yn y berthynas rhwng yr undebau a'r rheolwyr yn ystod [[Streic y Glowyr (1984–85)|Streic y Glowyr]] 1984-1985.

== Bywyd cynnar ==
Ganwyd Weekes ym mhentref Nantybwch, ger [[Tredegar]] yn [[Sir Fynwy]], yn fab i fferyllydd. Addysgwyd Weekes yn Ysgol Sir Tredegar, ac enillodd ysgoloriaeth gan Gwmni Haearn a Glo Tredegar i [[Prifysgol Caerdydd|Goleg y Brifysgol, Caerdydd]], lle graddiodd mewn peirianneg mwyngloddio. Ymunodd â'r [[Yr Awyrlu Brenhinol]] ym 1942, ond nid oedd modd iddo ddod yn beilot oherwydd problemau, a dychwelodd i fwyngloddio.

== Gyrfa ==
Ar ei ben-blwydd yn 26, penodwyd Weekes yn rheolwr Glofa [[Wyllie]], yn , Caerffili, ac ym 1948 symudodd i fod yn rheolwr ar Lofa Oakdale yn Nyffryn Sirhowy. Yn sgil ie lwyddiannau mewn cysylltiadau llafur, yn 1950, anfonodd Gweinidog dros y Drefedigaethau, Jim Griffiths, i Nigeria yn dilyn terfysgoedd ym mwyngloddiau Enugu. Gwrthododd awgrymiadau y dylai gael ei warchodwyr arfog ei hun, a'i benderfyniad cyntaf oedd mynnu bod heddlu a milwyr yn cael eu tynnu'n ôl fel y gallai'r trafodaethau rhwng y gwethwyr a'r rheolwyr fynd ym eu blaen mewn amgylchedd newydd, digynnwrf a niwtral. Trodd y sefyllfa o gwmpas ac aeth glowyr yn ôl i'r gwaith. Dywedodd swyddog yn Swyddfa'r Trefedigaethau fod Weekes wedi gwneud "yn eitha da i fachgen ysgol ramadeg". Dychwelodd adref i ddod yn asiant pwll glo De Cymru ym 1951.
Ym 1964, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr astudiaethau yng ngholeg staff y [[Bwrdd Glo Cenedlaethol]] (NCB), a, dair blynedd yn ddiweddarach, daeth yn gyfarwyddwr cynhyrchu yn ardal de canolbarth Lloegr. Ym 1970, symudodd i brif swyddfa'r NCB yn Llundain, Hobart House, fel prif beiriannydd mwyngloddio, ac, y flwyddyn ganlynol, daeth yn gyfarwyddwr cyffredinol mwyngloddio. Weekes oedd Rheolwr Cyffredinol Ardal y De Orllewin rhwng 1973 a 1985. Ystyriwyd bod hon yn swydd od iddo dderbyn, oherwydd roedd mwyngloddio yn Ne Cymru erbyn hynny ar i lawr. Fodd bynnag, gwnaeth Weekes lawer i roi bywyd newydd diwdiant yn yr ardal, gan uno'r gweithwyr, y rheolwyr a'r undebau. Rhwng 1977 a 1984, roedd e'n aelod o fwrdd yr NCB.

== Streic y glowyr ==
Daeth agwedd Weekes tuag at gysylltiadau llafur i'r golwg yn ystod 1984-85, fe wnaeth ymdrechu am ganlyniad heddychlon. Yn gynnar ym 1985, gan fod yr anghydfod yn gwaethygu, gwrthododd Weekes orchymyn gan gadeirydd yr NCB, Ian MacGregor, i gynnig diswyddiad i bob glöwr yn ei faes glo, hyd yn oed y rhai oedd yn gweithio mewn pyllau oss yn gwneud elw. Cyn i'r streic ddechrau, anogodd arweinwyr undebau lleol yn breifat i wrando ar y neges gan eu haelodau, a oedd wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu diwydiannol mewn pleidleisiau pennawd. Roedd Weekes o'r farn mai camgymeriad gan Arthur Scargill oedd mynd i'r streic heb gynnal pleidlais.
Bu Weekes hefyd yn negodi’n gyfrinachol â Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru, David East, a chydag arweinwyr undebau lleol, i sicrhau bod yr anghydfod yn cael ei blismona gan yr hedlu lleol er mwyn osgoi’r gwrthdaro treisgar a welwyd mewn mannau eraill o Brydain yn ystod y streic. Fe wnaeth yn siŵr bod yr undebau wedi darparu digon o weithwyr i gynnal pympiau ac archwiliadau diogelwch fel y gallai gwaith yn y pyllau ailddechrau’n brydlon unwaith y byddai’r streic drosodd. Tua'r diwedd y streic, gwelwyd ef yn siarad â phicedwyr wrth gatiau Glofa Bedwas Navigation a chynnu sigarét gyda nhw. Ymddygiad a welwyd gan y Bwrdd Glo yn dangos ei fod yn rhy agos a'r gwethwyr.
Mae ei bapurau personol, sy'n cynnwys dyddiaduron ar gyfer cyfnod Streic y Glowyr yn cael eu cadw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].
Ymhell ar ôl iddo ymddeol, roedd glowyr yn chwilio amdano o hyd yn y stryd i ddymuno'n dda iddo. Dywedodd Kim Howells, Aelod Seneddol Pontypridd rhwng 1989 a 2010, a swyddog Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar adeg y streic, ar ôl marwolaeth Weekes: "Roedd yna lawer a gredai fod Phil Weekes, peiriannydd mwyngloddio a chyfathrebwr gwych , dylai fod wedi cael ei wneud yn Gadeirydd y Bwrdd Glo yn gynnar yn yr wythdegau. Pe bai hynny wedi digwydd byddai stori mwyngloddio ym Mhrydain yn wahanol iawn."

== Gyrfa ar ôl streic ==
Yn dilyn ei ymddeoliad o'r Bwrdd Glo, roedd Weekes yn amlwng mewn nifer o feydydd. Enillodd drwydded ei beilot, ac yn ym 1992, daeth yn gadeirydd yr Ŵyl Arddio Genedlaethol, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Glyn Ebbw i drawsnewid hen waith dur a phwll glo yn ardd ac ardal arddangos. Pan brynodd gweithwyr yn [[Glofa'r Tŵr|Glofa'r Twr]] eu pwll glo, roedd yn gadeirydd y fenter rhwng 1994 a 1999. Roedd cysylltiad cryd gyda Weekes a Glofa'r Twr - ym mis Ebrill 1962, fe oedd y rheolwr cyntaf i fynd i mewn i'r pwll glo yn dilyn ffrwydrad lle bu farw naw dyn. O 1992, roedd hefyd yn gadeirydd cwmni gwaredu gwastraff Silent Valley yn Cwm. Roedd yn aelod o bwyllgor Tywysog Cymru, cyngor ymgynghorol y BBC, IBA Cymru a llywodraethwr Coleg Unedig yr Iwerydd. Penododd CBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 1993.

== Bywyd personol ==
Bu farw Weekes ar 26 Mehefin 2003 ym Mhenarth, Morgannwg. Roedd yn briod gyda dau fab a dwy ferch. Bu farw ei fab ieuengaf yn 2001.