Eduardo Galeano: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B diweddaru, teipos
B teipo
Llinell 8:
==Bywyd==
Ganed Galeano yn [[Montevideo]], [[Wrwgwái]] (Uruguay) i deulu dosbarth canol Catholig o dras Ewropeaidd.
Fel cynifer o fechgyn ifanc America Ladin, breuddwydiodd am fod yn chwaraewr [[pêl-droed]] ac fe adlewyrchid hyn yn rhai o'i weithiau, fel ''El Fútbol A Sol Y Sombra'' (Pêl-droed Mewn Haul a Chysgod). Yn ei arddegau, felfe weithiodd mewn sawl swydd — gweithiwr ffatri, casglwr biliau, peintiwr arwyddion, negesydd, teipiwr, a gweithiwr banc. Yn 14 mlwydd oed, gwerthodd Galeano ei [[cartŵn gwleidyddol|gartŵn gwleidyddol]] cyntaf i wythnosolyn y [[Plaid Sosialaidd Uraguay|Blaid Sosialaidd]], ''El Sol''. Priododd am y tro cyntaf yn 1959.
 
Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn y 1960au cynnar fel golygydd ''Marcha'', cofnodolyn wythnosol dylanwadol gyda chyfranwyr megis Mario Vargas Llosa, Mario Benedetti, Manuel Maldonado Denis a Roberto Fernández Retamar. Am ddwy flynedd fe weithiodd fel golygydd y papur dyddiol ''Época'' a gweithiodd fel prif olygydd University Press. Yn 1962, yn dilyn ysgariad, fe briododd Graciela Berro.