Cyngres Undebau Llafur Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Balwen76 (sgwrs | cyfraniadau)
Creu tudalen
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:27, 5 Mai 2020

Rhanbarth o Gyngres yr Undebau Llafur yw Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru), corff sy'n cynrychioli 48 o undebau llafur yng Nghymru, sydd yn eu tro yn cynrychioli bron i 400,000 o weithwyr[1].


Hanes

Cafodd Cyngres Undebau Llafur Cymr ei sefydlu yn 1974. Yn 1982, sefydlodd Cyngres Undbau Llafur Cymru Ganolfan Cydweithredol Cymru er mwyn darparu cefnogaeth i fentrau cydweithredol a helpu gweithwyr oedd wedi colli swyddi yn ystod y dirwasgiad. Erbyn hyn y ganolfan yw'r corff datblygu cydweithredol mwyaf yn y Deyrnas Unedig[2].

Statws

Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) yn rhan o Gyngres yr Undebau Llafur, ond mae'n meddu ar fwy o gyfrifoldebau ac anibynniaeth na'r rhanbarthau yn Lloegr, gan gynnwys cyfrifoldebau am faterion sydd wedi cael eu datganoli i Senedd Cymru a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru[1].

Ymgyrcholedd

Mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn rhedeg nifer o ymgyrcholedd, gan gynnwys;

  • Gwneud Cymrun wlad gwaith teg
  • Ymgyrch Siartr afiechyd marwol
  • Gwrthsefydd y dde eithafol
  • Y menopos yn y gweithle
  • Ymwybyddiaeth awtistiaeth yn y gweithle[3]

Arweinwyr


Ysgrifenyddion Cyffredinol

  • 1974: George Wright
  • 1984: David Jenkins
  • 2004: Felicity Williams
  • 2008: Martin Mansfield


Llywyddion

Blwyddyn Llywydd Undeb
1974 Len Murray Cyngres yr Undebau Llafur
1974 Dai Francis Undeb Ceneldaethol y Glowyr
1975 W. John Jones USDAW
1976 D. Ivor Davies Cyngor Undebau Morgannwg Ganol
1977 Glyn Phillips NALGO
1978 Archie Kirkwood Undeb Cenedlaethol Gweithwyr Rheilffordd
1979 Sylvia Jones Cyngor Undebau Morgannwg Ganol
1980 John Griffiths T&GWU
1981 Les Paul Inland Revenue Staff Federation
1982 Jim Morris Cyngor Undebau Clwyd
1983 Harry Harris GMB
1984 Bryn Davies Transport and General Workers' Union
1985 Jim Ryan Cyngor Undebau Gorllewin Morgannwg
1986 Lyn Tregonning T&GWU
1987 Ian Spence GMB
1988 Elwyn Morgan Cyngor Undebau Morgannwg Ganol
1989 George Wright T&GWU
1990 Idris Jones NALGO
1991 Kevin Crowley Inland Revenue Staff Federation
1992 Bob Hart NUPE
1993 Brian John Cyngor Undebau Gorllewin Morgannwg
1994 Pat Phillips USDAW
1995 Allan Garley GMB
1996 David White TUC Cymru
1997 Edwina Hart Undeb Bancio, Yswiriant a Chyllid
1998 Denise Carter Cyngor Undebau Wrecsam
1999 Alwyn Rowlands AEEU
2000 Derek Gregory Unison
2001 Jim Hancock T&GWU
2002 Brian Curtis RMT
2003 Ted Jenks Cyngor Undebau Conwy
2004 Margaret Hazell Amicus
2005 David Lewis Amicus
2006 John Burgham T&GWU
2007 Ruth Jones Chartered Society of Physiotherapy
2008 Vaughan Gething GMB
2009 Paul O'Shea Unison
2010 Sian Wiblin PCS
2011 Andy Richards Unite
2011 Amarjite Singh CWU
2013 David Evans Undeb Ceneldaethol yr Athrawon
2015 Margaret Thomas Unison
2016 Mike Jenkins Unite
2018 Shavanah Taj PCS
2019 Ruth Brady GMB

Dolenni allannol

Cyfeirnodau


  1. 1.0 1.1 "T.U.C for England" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-05.
  2. "Wales Co-operative Centre | cooperatives-wales.coop" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-05.
  3. osdjay (2019-01-24). "Ymgyrchoedd TUC Cymru". www.tuc.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-05.