Gai Toms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25:
 
===Albymau===
Rhyddhaodd Gai yr albwm eco-gysyniadol ''[[Rhwng y Llygru a'r Glasu]]'' o dan ei enw ei hun yn 2008, a arweiniodd at ddwy wobr Roc a Phop (RAP) [[BBC Radio Cymru]], y naill am y telynegwr gorau, a'r llall am artist gorau y flwyddyn honno. Recordiodd Gai yr albwm yn ei gartref yn nhref [[Blaenau Ffestiniog]], Gwynedd gan ddefnyddio ynni glân a drymiau a achubwyd o domennydd sbwriel. Cafodd y gwaith celf ar glawr yr albwm a'r deunydd pecynnu hefyd eu cynhyrchu o ddeunyddiau wedi eu [[ailgylchu|hailgylchu]]. Mae pob can ar yr albwm yn ymdrin â chwestiynau am gynaladwyedd yn ogystal â'n bodolaeth a'n pwrpas yn y byd. Defnyddiwyd ystod eang o arddulliau cerddorol ar yr albwm hwn, gan gynnwys [[y felan]] 'wenfflam' a rymba 'iard sbwriel'. Yr albwm hwn oedd y cyntaf i ymddangos o dan label Gai, [[Recordiau Sbensh]].
 
Fel arfer, bydd Gai Toms yn perfformio yn ei iaith gyntaf, sef [[Cymraeg]]. Ym mis Tachwedd 2012 cyhoeddodd Gai ei fod yn bwriadu rhyddhau albwm ddwbl o ddwy ar hugain o ganeuon newydd o'r enw ''[[Bethel (albwm)|Bethel]]'' fydd yn cynnwys deg cân werin eu naws 'wreiddiol, amrwd a bythol' a deuddeg 'clasur aml-arddull' ym mis Rhagfyr 2012<ref>[http://www.gaitoms.com/cymraeg/newyddion-gigs/]</ref>