Swffragét: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
ehangu
Llinell 6:
Cysylltir y term swffraget yn benodol gyda ymgyrchwyr o'r WSPU Prydeinig, a'u harweinydd [[Emmeline Pankhurst]], gafodd ei dylanwadu gan dulliau Rwsiaidd o brotestio e.e. [[ymprydio]]. Er i Ynys Manaw ganiatau merched oedd berchen ar eiddo bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1881, Seland Newydd oedd y wlad hunan-lywodraethol cyntaf i ganiatau hawl i bob menyw dros 21 oed bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn 1893.<ref>[//en.wikipedia.org/wiki/Ida_Husted_Harper Ida Husted Harper]. ''[https://archive.org/stream/historyofwomansu06stanuoft#page/n5/mode/2up History of Woman Suffrage, volume 6]'' ([//en.wikipedia.org/wiki/National_American_Woman_Suffrage_Association National American Woman Suffrage Association], 1922) p. 752.</ref> Llwyddodd merched yn Ne Awstralia i gael yr un hawliau ac i gael yr hawl i gael eu hethol yn 1895.<ref>{{Cite web|url=http://foundingdocs.gov.au/item.asp?dID=8|title=Foundingdocs.gov.au|access-date=8 Ionawr 2011|publisher=Foundingdocs.gov.au|archiveurl=https://web.archive.org/web/20101203020826/http://www.foundingdocs.gov.au/item.asp?dID=8|archivedate=3 Rhagfyr 2010|deadurl=yes}}</ref> Yn yr Unol Daleithiau, roedd gan ferched gwyn dros 21 oed yr hawl i bleidleisio yn Wyoming o 1896 ac yn Utah o 1870. Er hynny, yn 1903 nid oedd gan ferched ym Mhrydain yr hawl i bleidleisio a penderfynodd Pankhurst bod rhaid i'r mudiad ddod yn radical a milwriaethus i fod yn effeithiol. Yn rhan o'r ymgyrchu roedd difrodi eiddo, ymprydio a charcharu tan ddechrau'r rhyfel yn 1914.
 
DaethYn yr1918 pasiwyd Deddf Gynrychiolaeth y Bobl oedd yn rhoi’r hawl, i ferched ym Mhrydain dros 30 oed ym Mhrydain i bleidleisio, gydag amodau eiddo penodol, bleidleisio yn 1918, ac yn 1928 daeth hynny'n wir i pob menyw dros 21 oed.<ref name="Crawford 1999">{{Harvard citation no brackets|Crawford|1999}}.</ref> 
 
== CarcharuHanes cynnar ==
Er bod Deddfau Diwygio 1832, 1867 ac 1884 wedi cynyddu nifer y dynion a fedrai bleidleisio ni roddwyd unrhyw hawliau pleidleisio i fenywod. At ei gilydd roedd llai o gyfleodd gan fenywod i gael addysg a roedd y fenyw yn cael ei thrin yn israddol hefyd yng ngolwg y [[Cyfraith|gyfraith]], er enghraifft, roedd y wraig yn berchen i’r gŵr ac roedd unrhyw gyflog roedd y wraig yn ennill neu unrhyw eiddo a oedd ganddi cyn ac ar ôl y [[Priodas|briodas]] yn berchen i’r gŵr. Yng ngolwg y gyfraith hefyd roedd y plant yn berchen i’r gŵr ac roedd gan y gŵr hawl i ysgaru ei wraig os oedd hi’n anffyddlon ond nid oedd hawl gan y wraig i wneud hynny. Petai ysgariad, y gŵr oedd yn berchen y plant a nid oedd hawl gan y fam i’w gweld nhw.
[[Delwedd:Emmeline_Pankhurst2.jpg|chwith|bawd|Emmeline Pankhurst]]
[[Delwedd:Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912.jpg|alt=Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912|bawd|Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912]]
 
Y grŵp mwyaf amlwg yn nyddiau cynnar y frwydr i ennill y bleidlais i fenywod, ers 1860, oedd y Swffragistiaid. Roedd y Swffragistiaid yn credu mewn dulliau mwy heddychlon o brotestio tra fod y Swffragetiaid, wedi mabwysiadu dulliau mwy milwrol a militant i dynnu sylw at yr achos.
Ar ddechrau'r 20g hyd at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] carcharwyd tua mil o swffragetiaid ym Mhrydain.<ref name="Purvis 1995 103">{{Harvard citation no brackets|Purvis|1995|p=103}}.</ref>
 
Dadleuai’r Swffragistiaid y dylai menywod oedd yn berchen eiddo gael yr hawl i bleidleisio ar yr un telerau â dynion. Nid oeddent, ar y cychwyn, yn gofyn am y bleidlais i bob menyw. Credent y byddai ennill y bleidlais yn arwain i welliannau eraill i fenywod yn y gymdeithas, er enghraifft, y byddai amodau gwaith menywod [[dosbarth gweithiol]] yn gwella, y byddai menywod dosbarth gweithiol yn cael eu derbyn i swyddi galwadigaethol ac y byddai’r bleidlais yn gwella hawliau menywod priod yn nhermau eiddo, addysg a hawl i ofalu am eu plant.
 
Ar yr ochr arall, roedd llawer yn gwrthwynebu rhoi’r bleidlais i fenywod ar sail y ffaith eu bod yn rhy emosiynol i gael y bleidlais, nad oeddent yn medru meddwl yn rhesymegol a bod beichiogrwydd yn tanseilio eu gallu i wneud penderfyniadau doeth. Dadleuwyd hefyd bod buddiannau menywod yn cael eu hamddiffyn gan ddynion yn barod. Roedd gwleidyddion amlwg fel [[Winston Churchill]], [[Joseph Chamberlain]], [[Rudyard Kipling]] a Herbert Asquith yn erbyn rhoi’r bleidlais i fenywod. Yn 1889 cyhoeddwyd pamffled ''An Appeal against Women’s Suffrage'' oedd wedi ei llunio gan grwp o fenywod amlwg yng Nghymru ac yn 1908 sefydlwyd Cynghrair Gwrth-bleidlais Menywod. Roedd menywod felly yn anghytuno ynghylch os ddylent gael y bleidlais.
 
== Ymgyrch y Swffragetiaid ==
Rhwng 1900 – 1914 gwelwyd agweddau a safiad mwy milwrol yn datblygu ymhlith menywod oedd yn ymgyrchu dros ymestyn y beidlais. Roedd y Swffragetiaid yn allweddol i’r newid yma. Roedd y Swffragistiaid yn parhau i weithredu’n heddychlon gan drefnu cyfarfodydd, gorymdeithiau a threfnu petisiynau yn ogystal a cheisio dylanwadu ar Aelodau Rhyddfrydol y Senedd. Cynyddodd aelodaeth blynyddol y mudiad o 6,000 yn 1907 i 16,000 erbyn 1909.
 
Yn y blynyddoedd a arweiniodd at y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] llwyddodd y WSPU (''Women’s Social'' ''and Political Union'') i ddenu cyhoeddusrwydd i’w hachos mewn ffordd llawer mwy llwyddiannus nag aelodau fwy cymhedrol y Swffragistiaid. Sefydlwyd y WSPU yn 1903 gan Mrs Emmeline Pankhurst ac roedd aelodau’r mudiad yn cael eu hadnabod fel ‘Swffragetiaid’. Slogan y WSPU oedd ‘Gweithredoedd nid Geiriau’ a defnyddiwyd y term ‘Swffragét’ i ddisgrifio mudiad a oedd yn fodlon defnyddio grym er mwyn ennill cefnogaeth.
 
Aelodau mwyaf blaengar eraill y mudiad oedd merched Pankhurst, sef [[Christabel Pankhurst|Christabel]] a [[Sylvia Pankhurst|Sylvia]], [[Annie Kenney]], [[Emmeline Pethick-Lawrence]] a [[Hannah Mitchell]]. Pan etholwyd y Llywodraeth Ryddfrydol yn 1906 dan arweiniad Herbert Asquith, penderfynodd y mudiad ei bod yn mynd i dorri’r gyfraith yn bwrpasol er mwyn ennill gwelliannau dros yr ymgyrch i gael y bleidlais i fenywod. Byddent yn tarfu ar gyfarfodydd gwleidyddol a heclo’r siaradwyr, a chlymu eu hunain i reilins [[Stryd Downing]]. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynhaliwyd sawl gorymdaith ganddynt, er enghraifft, yr Orymdaith Fwd yn Chwefror 1907 (oherwydd y tywydd), yr Orymdaith i Goroni Menywod ym Mehefin 1911 (oherwydd roedd Siôr V yn cael ei goroni) a bu terfysgu ac ymosodwyd ar ffenestri 10 Stryd Downing ym Mehefin 1910.
 
Ymhlith tactegau mwyaf militant y Swffragetiaid oedd mynd ar ymrpyd er mwyn denu fwy o sylw i’w hachos. Ymateb y Llywodraeth oedd eu gorfodi i fwyta ac ym 1913 pasiwyd Deddf y Gath a’r Lygoden a oedd yn ymdrech arall gan y Llwyodraeth i dorri ysbryd yr aelodau. Denodd y mudiad llawer o gyhoeddusrwydd pan daflodd [[Emily Davison]], ei hun o flaen ceffyl y Brenin, sef ‘Anmer’, yn y Derby yn [[Epsom]] ar Fehefin 4, 1913. Daeth yn ferthyr i achos y Swffragetiaid a’r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod.[[Delwedd:Ymosod ar Swffraget Llanystumdwy 1912.jpg|alt=Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912|bawd|Ymosod ar Swffraget, Llanystumdwy 1912]]
 
== Protestio a difrodi eiddo ==
[[Delwedd:Emmeline_Pankhurst2.jpg|chwith|bawd|Emmeline Pankhurst]]
Yn ystod ymgyrchoedd y swffraget ym Mhrydain roedd cynnwys blychau post yn cael eu rhoi ar dan neu roedd asid neu hylif ysol yn cael ei dollti dros llythyrau a chardiau post. Difrodwyd ffenestri siopau a swyddfeydd gyda morthwylion. Torrwyd gwifrenni ffôn a gwelwyd slogannau graffiti ar y strydoedd.<ref name="London walks">{{Cite web|url=https://londontownwalks.com/2013/02/19/suffragette-attack-on-lloyd-george/|title=Suffragette attack on Lloyd-George|access-date=4 Chwefror 2013|website=London walks|publisher=London Town Walks|last=Porter|first=Ian}}</ref> 
 
Ym mis Ionawr 1907 yn [[Llandudno]] sefydlwyd cangen gyntaf y Swffragetiaid er ennill y bleidlais i ferched yng Nghymru. Bu merched yn cynnal cyfarfodydd yng Nghymru ers yr 1870au ac yn 1874 bu Americanes o'r enw Miss Beedy ar daith drwy'r wlad yn ceisio ennyn cefnogaeth i'r achos. Sefydlwyd canghennau yn y [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caerdydd|Chaerdydd]] yn 1908, ac yna yn [[Ynys Môn|Sir Fôn]] a [[Bangor]] yn 1912.
 
Un o sylfaenwyr cangen Caerdydd oedd [[Millicent Mackenzie]], yr unig wraig i sefyll fel ymgeisydd seneddol yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 1918. Tueddai rhai o'r merched a ymladdai am y bleidlais i gefnogi'r Blaid Geidwadol, oherwydd credent y byddai'r Ceidwadwyr yn fwy tebygol o ildio i'w gofynion.
 
Nid oedd croeso i'r merched ymhobman, a bu helynt a chythrwfl ar nifer o achlysuron wrth iddynt geisio lledaenu eu neges. Yn ystod Etholiad Cyffredinol 1910 roedd merched wedi ymgyrchu yn erbyn David Lloyd George ym mwrdeistref [[Caernarfon]] gyda'r slogan, "Pleidleisiwch yn erbyn eich anifail anwes, Canghellor y Trysorlys".<ref>{{Cite web|title=Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ennill y Bleidlais|url=https://web.archive.org/web/20130719101535/http:/www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index.htm|website=web.archive.org|date=2013-07-19|access-date=2020-05-07}}</ref>
 
Roedd [[David Lloyd George]], fel aelod pwysig o’r llywodraeth ac wedyn yn Brif Weinidog, yn darged cyson ar gyfer y protestiadau. Gweiddwyd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] ac ym Mhafiliwn [[Caernarfon]] ble cafodd y protestwyr, dynion a merched eu curo gan y dorf.<ref>{{cite web|url=https://www.museumwales.ac.uk/893/|title=Historic Eisteddfodau and Gorseddau|accessdate=5 Chwefror 2016|work=museumwales.ac.uk}}</ref> Ym 1912 roedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol [[Llanystumdwy]] i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith, llusgwyd y protestwyr o’r neuadd yn filain iawn ac eu curo. Cafodd un o’r merched ei dillad wedi’u tynnu a bron taflwyd un arall oddi ar y bont yr [[Afon Dwyfor]] gerllaw i’r creigiau.<ref>{{cite web|url=https://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index-e.htm |title=Winning the vote for women in Wales |work=llgc.org.uk |accessdate=31 Mawrth 2016}}</ref>
 
Targedwyd Plas Pinfold yn Surrey, oedd wedi ei adeiladu i Lloyd George, gyda dau fom ar 19 Chwefror 1913. Ffrwydrodd un gan greu difrod mawr. Yn hunangofiant [[Sylvia Pankhurst]] mae'n honni mai [[Emily Davison]] oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
 
Er mor ddadleuol oedd tactegau a dulliau protestio y Swffragetiaid roeddent wedi llwyddo i ddenu cyhoeddusrwydd at yr ymgyrch i ymestyn y bleidlais i fenywod. Beirniadwyd eu dulliau gan y cyhoedd tra bod eraill yn gweld fel mudiad niwsans a oedd yn tarfu ar y gymdeithas. Ond gyda chyhoeddiad y rhyfel yn 1914 rhoddwyd y protestio i’r naill ochr gan y ddau fudiad er mwyn helpu gyda’r ymgyrch ryfel. Bu’r penderfyniad hwn yn hollbwysig ym mherswadio’r Llywodraeth i roi’r bleidlais i fenywod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.<ref>{{Cite web|title=Resource WJEC Educational Resources Website|url=https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=116&langChange=cy-GB|website=resources.wjec.co.uk|access-date=2020-05-07}}</ref>
 
== Ymprydio ==
Y ddynes gyntaf i ymprydio dros achos y swffragetiaid oedd Marion Wallace Dunlop. Cafodd ei charcharu am fis ym mis Gorffennaf 1909 am fandaliaeth.<ref>Purvis, ""Deeds, Not Words"", 97</ref> Ar ol 91 awr o ymprydio cafodd ei rhyddhau gan i'r Ysgrifennydd Cartref, Herbert Gladstone ofni iddi ddod yn ferthyr.<ref name="Geddes 2008 82">{{Harvard citation no brackets|Geddes|2008|p=82}}.</ref>
 
== Carcharu ==
Ar ddechrau'r 20g hyd at y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] carcharwyd tua mil o swffragetiaid ym Mhrydain.<ref name="Purvis 1995 103">{{Harvard citation no brackets|Purvis|1995|p=103}}.</ref>
 
==Cyfeiriadau==