Dafydd Elis-Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 25:
Ganwyd Dafydd Elis-Thomas yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], yn fab i weinidog yn [[Eglwys Bresbyteraidd Cymru]], a chafodd ei fagu yn [[Llandysul]] a [[Llanrwst]].
 
Fe’i hetholwyd yn [[Aelod Seneddol]] yn Chwefror 1974, yr un adeg â [[Dafydd Wigley]], pryd y cafodd [[Plaid Cymru]] dau, ac wedyn yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y [[Tŷ'r Cyffredin Prydeinig|Nhŷ’r Cyffredin]]. Gadawdd y Tŷ Cyffredin ym [[1983]], ac ym [[1992]] fe’i henwebwyd i fod yn aelod o [[Tŷ'r Arglwyddi|Dŷ'r Arglwyddi]], fel y Barwn Elis-Thomas.
 
Rhwng [[1994]] a [[1999]] bu’n Gadeirydd [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg]].