Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Catraeth"

Ychwanegwyd 25 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
rhyngwici
(map)
B (rhyngwici)
Enw lle sy'n ymddangos yn y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef [[yr Hengerdd]], o'r [[Hen Ogledd]] yw '''Catraeth'''.
 
Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn ''[[Y Gododdin]]''', sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn [[600]]. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonig]] ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn ([[Caeredin]] heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr [[Eingl]] ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn. Ceir cyfeiriadau at yr arwyr yn mynd i Gatraeth ar ddechrau amryw o'r penillion, er enghraifft "Gwŷr a aeth Gatraeth gan wawr".
 
Yng [[Canu Taliesin|Nghanu Taliesin]], sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir [[Urien Rheged]], arglwydd [[Rheged]] fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
[[Categori:Yr Hengerdd]]
[[Categori:Y Cynfeirdd]]
 
[[en:Battle o Catraeth]]
65,803

golygiad