Alpes Poenninae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:11, 30 Ionawr 2007

Roedd Alpes Poenninae neu yn llawn Alpes Poenninae et Graiae yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Hi oedd y mwyaf gogleddol o'r tair talaith fechan yn ardal yr Alpau. Roedd y dalaith yn cynnwys yr Alpau yn ardal y Valais, rhwng Ffrainc, Y Swistir a'r Eidal. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a Gallia Narbonensis, gyda talaith Rhaetia i'r dwyrain, Germania Superior i'r gogledd ac Alpes Cottiae a'r Eidal i'r de.

Talaith Alpes Poenninae

Yr oedd Alpes Poenninae yn wreiddiol yn diriogaeth llwythi Galaidd y Nantuates, y Veragroa, y Sedunos a'r Uberos. Gorchhfygwyd hwy gan Iŵl Cesar yn y flwyddyn 58 CC, a meddianwyd y diriogaeth yn 15 CC dan yr ymerawdwr Augustus gan fyddin oedd dan arweiniad [[Tiberius a Drusus. Nid yw'n eglur a grewyd y dalaith yr adeg honno neu'n ddiweddarach yn nheyrnasiad Claudius.

Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau. Credir fod y gair Poenninae yn dod o Penn, duw Celtaidd y mynyddoedd. Daw Graiae o fytholeg Groeg.

Yn y bedwaredd ganrif concrwyd y diriogaeth gan y Bwrgwndiaid, oedd wedi symud i mewn i'r dalaith yn heddychlon yn ystod y ganrif cynt.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia