Harry Potter and the Chamber of Secrets: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mnj1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Mnj1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''''Harri Potter a’r Siambr Gyfrinachau''''' (Teitl gwreiddiol Saesneg: ''Harry Potter and the Chamber of Secrets'') yw’r ail nofel yng nghyfres Harri Potter a ysgrifennwyd gan [[J. K. Rowling]]. Nid yw eto wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, ond Cyfieithiwyd y nofel cyntaf yn y gyfres, [[Harri Potter a Maen yr Athronydd]], gan [[Emily Huws]] yn 2003.

Mae'r stori yn dilyn ail flwyddyn Harri yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts, pan ymddangosai cyfres o negeseuon ar waliau coridorau’r ysgol yn rhybuddio bod y "Siambr Gyfrinachau" wedi ei agor, a bod "aer Slafennog" yn mynd i ladd holl ddisgyblion nad ydynt yn dod o deuluoedd dewinol. Dilynir y bygythiadau gan ymosodiadau sy'n gadael drigolion yr ysgol "petrified" (hynny yw, wedi'u rhewi). Trwy gydol y flwyddyn, mae Harri a'i ffrindiau Ron Weasley ac Hermione Granger yn ymchwilio mewn i’r ymosodiadau, a daw Harri wyneb yn wyneb gyda’r Arglwydd Voldemort, sydd yn ceisio adennill grym cyflawn.
 
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig trwy’r Saesneg ar 2il o Orffennaf, 1998 gan y cyhoeddwyr Bloomsbury ac yn yr Unol Daleithiau ar yr 2il o Fehefin, 1999 gan Scholastic Inc. Er mae’n debyg bod Rowling yn ei chael yn anodd i orffen y llyfr, enillodd clod uchel gan feirniaid, darllenwyr ifanc a'r diwydiant llyfrau. Er hynny, honnai rhai beirniaid bod y stori’n rhy frawychus ar gyfer plant iau. Mae rhai awdurdodau crefyddol wedi condemnio ei defnydd o themâu hudol, tra bod eraill wedi canmol ei phwyslais ar hunan-aberth ac ar y ffordd y mae cymeriad person yn ganlyniad i’w ddewisiadau.