Alpes Poenninae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
creu
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Alpes Poenninae''' neu yn llawn '''Alpes Poenninae et Graiae''' yn dalaith o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Hi oedd y mwyaf gogleddol o'r tair talaith fechan yn ardal yr [[Alpau]]. Roedd y dalaith yn cynnwys yr Alpau yn ardal y Valais, rhwng [[Ffrainc]], [[Y Swistir]] a'r [[Eidal]]. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a [[Gallia Narbonensis]], gyda talaith [[Rhaetia]] i'r dwyrain, [[Germania Superior]] i'r gogledd ac [[Alpes Cottiae]] a'r Eidal i'r de.
 
Yr oedd Alpes Poenninae yn wreiddiol yn diriogaeth llwythi [[Gâl|Galaidd]] y [[Nantuates]], y [[Veragroa]], y [[Sedunos]] a'r [[Uberos]]. Gorchhfygwyd hwy gan [[Iŵl Cesar]] yn y flwyddyn [[58 CC]], a meddianwyd y diriogaeth yn [[15 CC]] dan yr ymerawdwr [[Augustus]] gan fyddin oedd dan arweiniad [[[[Tiberius]] a [[Drusus]]. Nid yw'n eglur a grewyd y dalaith yr adeg honno neu'n ddiweddarach yn nheyrnasiad [[Claudius]].
 
Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau. Credir fod y gair ''Poenninae'' yn dod o [[Penn]], duw [[Celtiaid|Celtaidd]] y mynyddoedd. Daw ''Graiae'' o fytholeg Groeg.