Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
B twtio
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu mwy ar wleidyddiaeth.
Llinell 22:
Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol [[Penrhyn Llŷn]], [[Gwynedd]] yw '''Tudweiliog''' ({{Sain|Tudweiliog.ogg|ynganiad}}).
 
Deallir fod y pentref wedi ei enwi ar ôl [[Tudwal]], sant Llydaweg a fu farw oddeutu'r flwyddyn 564. Mae damcaniaeth fod yr enw Tudwal ''(''neu ''<nowiki/>'Dathyl','' gweler ''<nowiki/>'Caer Dathyl'<nowiki/>'' ym ''Mhedwaredd Cainc y Mabinogi)'' wedi tarddu o o'r Aeleg ''<nowiki/>'Tuathal''' (Lladin Toutovalus, "Rheolwr/Tywysog y Bobl").<ref>{{Cite journal|title=Religion in Britain from the Megaliths to Arthur: An Archaeological and Mythological Exploration by Robin Melrose|url=http://dx.doi.org/10.1353/art.2017.0038|journal=Arthuriana|date=2017|issn=1934-1539|pages=87–89|volume=27|issue=4|doi=10.1353/art.2017.0038|first=Kenneth L.|last=Campbell}}</ref> Y Tuathal mwyaf cydnabuddus oedd brenin chwedlonol Gwyddelig o'r un enw o'r ganrif 1af [[Túathal Techtmar]], a alltudiodd i Brydain cyn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach i deyrnasu tros Iwerddon. Mae hefyd son mai enw gwreiddiol y pentref oedd 'Bydweiliog'.
 
Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad [[Gymraeg|Cymraeg]] fel mamiaith. Mae [[amaethyddiaeth]] yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda [[Twristiaeth|thwristiaeth]] yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, [[eglwys]], (- sydd wedi ei chysegru i Sant Cwyfan, ar ôl Saint Kevin o'r 6ed ganrif o Glean Dá Loch, yn Sir Mhantáin, Iwerddon), [[capel]] (a chapel Berseba sydd rŵan yn anheddau) ac [[ysgol]] gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn [[2007]]. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a [[Pwllheli|Phwllheli]], sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir [[Gwynedd]], ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Cromlech Cefnamwlch ([[cromlech]]) ar [[Mynydd Cefnamwlch]], olion cymuned o [[Oes yr Haearn]] ar gopa fynydd [[Carn Fadryn]], traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol [[Porth Ysgaden]], [[Porth Colmon]] yn Llangwnnadl (hefyd [[Llangwnadl]]), a [[Porth Gwylan|Phorth Gwylan]] sydd dan ofalaeth yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
= Gwleidyddiaeth =
Cynrychiolir yr ardal hon ynyng [[Cyngor Gwynedd|Nghyngor Gwynedd]] gan y cynghorydd Simon Glyn ([[Cynulliad CenedlaetholPlaid Cymru|Cynulliad]]) Cenedlaetholyn y [[Senedd Cymru]] gan {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AC}} a'r Aelod Seneddol yn San Steffan, Llundain yw {{Swits Dwyfor Meirionnydd i enw'r AS}}.<ref>[http://www.cynulliadcymru.org/memhome.htm Gwefan y Cynulliad;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref><ref>[http://www.parliament.uk/mps-lords-and-offices/mps/?sort=2&type=3 Gwefan parliament.uk;] adalwyd 24 Chwefror 2014</ref>
 
==Cyfrifiad 2011==