Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "A55"

Ychwanegwyd 2 feit ,  2 flynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB)
BNo edit summary
Mae hanes yr A55 yn dechrau gyda [[Thomas Telford]]. Pan gomisiynwyd ef i adeiladu'r [[A5]] o [[Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]], gofynwyd hefyd iddo wella'r ffordd o [[Conwy|Gonwy]] ar draws yr arfordir at ei ffordd newydd, gan gynnwys pontio'r [[Afon Conwy]]. Adeiladodd Telford [[Pont Grog Conwy]], a agorwyd yn [[1826]], fel y bont gyntaf ar draws yr afon yn y fan yma, llawer is na phontydd blaenorol, ac roedd hefyd wedi adeiladu ei ffordd dros lethrau'r ddau bentir peryglus. Roedd hwn felly wedi agor i fyny llwybr yr A55 presennol i deithio o Gaer i [[Bangor|Fangor]] trwy [[Conwy (tref)|Conwy]].
 
Yn y [[1930au]], gwellwyd ffordd Telford pan adeiladwyd yn sylweddol i leddfu'r siwrnai dros bentiroedd y Penmaen-bach (un twneltwnnel) a Phen-y-clip (dau dwneldwnnel a phont dros rhan o'r môr), ym Mhenmaenmawr. Yn [[1959]], agorwyd pont newydd ar draws [[Afon Conwy]] wrth ymyl y bont grog.
 
[[Delwedd:A55 Penmaen-bach.JPG|250px|bawd|chwith|Twnneli'r Penmaen-bach ar yr A55, ger [[Penmaenmawr]].]]