Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
B cysylltu 'Datganiad Rhyddid' hefo Emacipation Proclamation.
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
Deallir fod y pentref wedi ei enwi ar ôl [[Tudwal]], sant Llydaweg a fu farw oddeutu'r flwyddyn 564. Mae damcaniaeth fod yr enw Tudwal ''(''neu ''<nowiki/>'Dathyl','' gweler ''<nowiki/>'Caer Dathyl'<nowiki/>'' ym ''Mhedwaredd Cainc y Mabinogi)'' wedi tarddu o o'r Aeleg ''<nowiki/>'Tuathal''' (Lladin Toutovalus, "Rheolwr/Tywysog y Bobl").<ref>{{Cite journal|title=Religion in Britain from the Megaliths to Arthur: An Archaeological and Mythological Exploration by Robin Melrose|url=http://dx.doi.org/10.1353/art.2017.0038|journal=Arthuriana|date=2017|issn=1934-1539|pages=87–89|volume=27|issue=4|doi=10.1353/art.2017.0038|first=Kenneth L.|last=Campbell}}</ref> Y Tuathal mwyaf cydnabuddus oedd brenin chwedlonol Gwyddelig o'r un enw o'r ganrif 1af [[Túathal Techtmar]], a alltudiodd i Brydain cyn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach i deyrnasu tros Iwerddon. Mae hefyd son mai enw gwreiddiol y pentref oedd 'Bydweiliog'.
 
Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad [[Gymraeg|Cymraeg]] fel mamiaith. Mae [[amaethyddiaeth]] yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda [[Twristiaeth|thwristiaeth]] yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, [[eglwys]], (- sydd wedi ei chysegru i Sant Cwyfan, ar ôl Saint Kevin o'r 6ed ganrif o Glean Dá Loch, yn Sir Mhantáin, Iwerddon), [[capel]] (a chapel Berseba sydd rŵan yn anheddau) ac [[ysgol]] gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn [[2007]]. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a [[Pwllheli|Phwllheli]], sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir [[Gwynedd]], ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Cromlech Cefnamwlch ([[cromlech]]) ar [[Mynydd Cefnamwlch]], olion cymuned o [[Oes yr Haearn]] ar gopa fynydd [[Carn Fadryn]], traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol [[Porth Ysgaden]], [[Porth Colmon]] yn Llangwnnadl (hefyd [[Llangwnadl]]), a [[Porth Gwylan|Phorth Gwylan]] sydd dan ofalaeth yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
= Gwleidyddiaeth =
Llinell 54:
<br />
==Hanes==
Mae cyfeiriad at Dudweiliog fel pentref bach yn ôl yn y C13, gyda'i heglwys yn gyrchfan ar ffordd y pererin yn Llŷn. Roedd Tudweiliog ar y pryd yn drefgordd o fewn Morfa o fewn [[cwmwd]] [[Cymydmaen]]. <ref>Historic Landscape Characterisation Llŷn - Area 21 The Western Coastal Plain from Llangwnadl to Porthdinllaen PRN 33494; Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd/ Gwynedd Archeological Trust </ref> Mae hanes y pentref yng nghlwm a thirfeiddianwr mawr hanesyddol yr ardal, sef Plas Cefnamwlch.
 
= Cysylltiad Tudweiliog â hanes yr UDA =
Mae cysylltiad wedi ei wneud rhwng Tudweiliog â hynafiaid [[Abraham Lincoln]] <ref>{{Cite journal|url=|title=Milwr o'r Rhiw|last=Williams|first=W Arvon|date=Rhagfyr 2011|journal=Llaw Llyn|volume=|pages=}}</ref>, <blockquote>".......cyhoeddodd Abraham Lincoln...ei [[Emacipation Proclamation|Ddatganiad Rhyddid]], yn datgan bod pob caethwas yn yr ardaloedd o dan warchodaeth y Gyngrhair yn rhydd."
 
Abraham Lincoln oedd 16ed Arlywydd yr [[Unol Daleithiau America|UDA]] a arweiniodd ei wlad drwy gyfnod eu rhyfel cartref.</blockquote>
 
==Cyfeiriadau==