Galaeth droellog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Spiral galaxy"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:07, 15 Mai 2020

Mae galaethau troellog yn rhan o ddosbarth o alaeth a ddisgrifiwyd yn wreiddiol gan Edwin Hubble yn ei waith ym 1936, The Realm of the Nebulae [1] ac, fel y cyfryw, maent yn rhan o ddilyniant Hubble. Mae'r mwyafrif o alaethau troellog yn cynnwys disg fflat sy'n cylchdroi ac yn cynnwys sêr, nwy a llwch, a chrynhoad canolog o sêr a elwir y chwydd. Mae'r rhain yn aml wedi'u hamgylchynu gan leugylch o sêr llawer llai disglair, llawer ohonynt yn bodoli mewn clystyrau amgrwn.

Enghraifft o alaeth droellog, Messier 101 neu NGC 5457)

Mae galaethau troellog yn cael eu henwi felly oherwydd eu strwythurau troellog, sy'n ymestyn o'u canol ac alln i'r ddisg galactig. Mae sêr yn parhau i ffurfio yn y breichiau troellog, gan olygu eu bod yn fwy disglair na'r ddisg o'u cwmpas oherwydd y sêr OB ifanc a phoeth o fewn iddynt.

Cyfeiriadau

  1. Hubble, E.P. (1936). The realm of the nebulae. Mrs. Hepsa Ely Silliman memorial lectures, 25. New Haven: Yale University Press. ISBN 9780300025002. OCLC 611263346.