Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
cysylltu a doleni eraill
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu cyswllt a Dinas, Llyn
Llinell 22:
Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol [[Penrhyn Llŷn]], [[Gwynedd]] yw '''Tudweiliog''' ({{Sain|Tudweiliog.ogg|ynganiad}}).
 
Deallir fod y pentref wedi ei enwi ar ôl [[Tudwal]], sant Llydaweg a fu farw oddeutu'r flwyddyn 564. Mae damcaniaeth fod yr enw Tudwal ''(''neu ''<nowiki/>'Dathyl','' gweler ''<nowiki/>'Caer Dathyl'<nowiki/>'' ym ''[[Mabinogi|Mhedwaredd Cainc y Mabinogi)]]'' wedi tarddu o o'r [[Gaeleg]] ''<nowiki/>'Tuathal''' (Lladin Toutovalus, "Rheolwr/Tywysog y Bobl").<ref>{{Cite journal|title=Religion in Britain from the Megaliths to Arthur: An Archaeological and Mythological Exploration by Robin Melrose|url=http://dx.doi.org/10.1353/art.2017.0038|journal=Arthuriana|date=2017|issn=1934-1539|pages=87–89|volume=27|issue=4|doi=10.1353/art.2017.0038|first=Kenneth L.|last=Campbell}}</ref> Y Tuathal mwyaf cydnabuddus oedd brenin chwedlonol Gwyddelig o'r un enw o'r ganrif 1af [[Túathal Techtmar]], a alltudiodd i Brydain cyn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach i deyrnasu tros Iwerddon. Mae hen ardal gyfagos o'r enw [[Llandudwen]] wedi ei enwi'n ôl Tudwen Sant, yn [[Dinas, Llŷn|Dinas]], Llŷn. Hefyd mae son mai enw gwreiddiol y pentref oedd 'Bydwaliog'.
 
Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad [[Gymraeg|Cymraeg]] fel mamiaith. Mae [[amaethyddiaeth]] yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda [[Twristiaeth|thwristiaeth]] yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, [[eglwys]], (- sydd wedi ei chysegru i Sant Cwyfan, ar ôl Saint Kevin o'r 6ed ganrif o [[Glean Dá Loch]], yn [[Wicklow|Sir Mhantáin]], [[Iwerddon]]), [[capel]] (a chapel Berseba sydd rŵan yn anheddau) ac [[ysgol]] gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn [[2007]]. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a [[Pwllheli|Phwllheli]], sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir [[Gwynedd]], ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Cromlech Cefnamwlch ([[cromlech]]) ar [[Mynydd Cefnamwlch]], olion cymuned o [[Oes yr Haearn]] ar gopa fynydd [[Carn Fadryn]], traethau tywodlyd [[Traeth Tywyn|Tywyn]] a [[Traeth Penllech|Phenllech]] a phorthladdoedd hanesyddol [[Porth Ysgaden]], [[Porth Colmon]] yn [[Llangwnnadl]] (hefyd [[Llangwnadl]]), a [[Porth Gwylan|Phorth Gwylan]] sydd dan ofalaeth yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].