Iddewiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.39.172.204 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan KamikazeBot.
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng [[Duw]] ac [[Abraham]], sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y [[crefyddau Abrahamig]] mawr eraill, sef [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]].
 
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a Rabbïau addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y mwyaf pwysigpwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o un [[Duw]] hollalluog a hollwybodol a greodd y [[bydysawd]] ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy [[Moses]] ar [[Mynydd Sinai|Fynydd Sinai]] yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.
 
== Gweler hefyd ==