Ymosodiad ar Pearl Harbor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
Cyrch filwrol annisgwyl gan lynges [[Japan]] ar ganolfan lyngesol yr [[Unol Daleithiau]] ar fore Sul, [[7 Rhagfyr]], [[1941]], oedd '''ymosodiad ar Pearl Harbor'''. Arweiniodd y cyrch hwn at yr Unol Daleithiau yn dod yn rhan o'r [[Ail Ryfel Byd]]. Nod y cyrch oedd atal Fflyd Cefnfor Tawel yr Unol Daleithiau rhag dylanwadu ar y rhyfel roedd Japan yn bwriadu ymladd yn [[De-ddwyrain Asia|Ne-ddwyrain Asia]] yn erbyn y [[Deyrnas Unedig]], yr [[Iseldiroedd]] a'r [[Unol Daleithiau]]. Roedd yr ymosodiad yn cynnwys dau gyrch awyr o 353 o awyrennau.
 
Yn yr ymosodiad, suddwyd pedwar o longau brwydro Llynges yr Unol Daleithiau a difrodwyd nifer yn fwy. Suddodd y Japaneaid dri criwser, tri llong ddistryw, ac un llong gosod ffrwydron, gan ddinistrio 188 awyren ac achosi marwolaethau 2,402 o bersonel ac anafu 1,282. Ni drawyd yr orsaf bŵer, yr iard longau a'r adnoddau tanwydd a thorpedo, yn ogystal a pier y [[llong danfor|llongau tanddwrtanfor]] ac adeilad y pencadlys. Prin oedd colledion Japan, gan golli 29 awyren a phedwar llong tanddwrdanfor bychan. Lladdwyd ac anafwyd 65 o bersonel Japaneaidd.
 
Chwaraeodd yr ymosodiad rhan allweddol yn yr Ail Ryfel Byd. Digwyddodd yr ymosodiad cyn i'r rhyfel gael ei datgan yn swyddogol a chyn i'r rhan olaf o'r neges 14 rhan gael ei dosbarthu i'r Adran Daleithiol yn [[Washington D.C.]]. Cyfarwyddwyd Llysgenhadaeth Japan yn Washington i ddosbarthu'r neges yn union cyn yr amser y bwriadwyd yr ymosodiad yn [[Hawaii]]. Roedd yr ymosodiad, ac yn benodol ei natur annisgwyl, yn ffactorau dylanwadol yn newid safbwyntiau ynysig cyhoedd yr Unol Daleithiau i gefnogi ymuno a'r rhyfel. Pan ddatganodd yr Almaen y rhyfel, daethpwyd a'r Unol Daleithiau yn rhan o ryfel Ewropeaidd hefyd. Er gwaethaf nifer o gyrchoedd annisgwyl dros y canrifoedd, arweiniodd y ffaith na wnaed unrhyw ddatganiad ffurfiol o ryfel cyn yr ymosodiad i'r [[Arlywydd]] [[Franklin D. Roosevelt]] i ddatgan "December 7th, 1941 — a date which will live in infamy".