Traeth Lafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gramadeg
Llinell 2:
Mae '''Traeth Lafan''' yn draeth llanwol eang ym [[Bae Conwy|Mae Conwy]] rhwng [[Bangor]], [[Gwynedd]] a [[Llanfairfechan]], [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] yng [[Gogledd Cymru|ngogledd Cymru]].
 
Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol [[Afon Menai]]. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol a elwir Bancyn Fanc y Dytshmon (''Dutchman's Bank''). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o deyrnas chwedlonol [[Tyno Helig]] a foddiwyd un noson ystormus.
 
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)]] i'w orffwysfa ym [[Brodordy Llan-faes|mynachlog Llan-faes]] yn [[1237]]. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar y 6ed o Dachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.