Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B brawddeg
Llinell 2:
Uchelwr o [[Tŷ Wittelsbach|Dŷ Wittelsbach]] oedd '''Siarl VIII''' (Karl Albrecht; [[6 Awst]] [[1697]] – [[20 Ionawr]] [[1745]]) a fu'n [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] o 1742 i 1745 ac yn Etholydd Bafaria o 1726 i 1745.
 
Ganed ym [[Brwsel|Mrwsel]] yn [[yr Iseldiroedd Sbaenaidd]], yn fab i Maximilian II, Etholydd Bafaria, a'i wraig Theresa Kunegunda Sobieska, a oedd yn ferch i Jan III Sobieski, brenin Gwlad Pwyl. Olynodd Siarl ei dad yn Etholydd Bafaria ym 1726. Er iddo gydnabod y Datganiad Pragmatig a oedd yn sicrhau hawl [[Maria Theresa]], merch [[Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|yr Ymerawdwr Siarl VI]], i olynu ei thad, roedd yr Etholydd Siarl yn credu ei fod yn meddu ar hawl ei hun gan fod ei wraig yn ferch i'r [[Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ymerawdwr Joseff I]].<ref name=EB/>
 
Yn sgil marwolaeth Siarl VI ym 1740, ymunodd Siarl â'r cynghrair yn erbyn Maria Theresa yn ystod [[Rhyfel Olyniaeth Awstria]] (1740–48). Cydnabuwyd ei hawl gan [[Teyrnas Ffrainc|Ffrainc]] a [[Teyrnas Prwsia|Phrwsia]], a fe'i coronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn Chwefror 1742. Dim ond tair blynedd oedd cyfnod ei deyrnasiad. Bu farw Siarl ym Mhalas Nymphenburg ym [[München]] yn 47 oed, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan [[Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ffransis I]], gŵr Maria Theresa.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Charles-VII-Holy-Roman-emperor |teitl=Charles VII (Holy Roman emperor) |dyddiadcyrchiad=29 Ebrill 2020 }}</ref>