Lloyd Hughes ("Spud"): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Dyfeisiwr
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
erthygl newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:19, 20 Mai 2020

Dyfeisiwr sigaréts menthol oedd 'Lloyd Hughes (neu "Spud" i'w ffrindiau), o Mingo Junction, Ohio a wnaeth y sigarét cyntaf o'r math hwn yn 1924,[1]. Ffurfiodd gwmni o'r enw 'The Spud Cigarette Corporation' gan werthu ei sigarennau am 20c am baced o ugain, o ddrws i ddrws. Yna, yn 1927 prynwyd yr hawl i greu sigarets menthol gan y cwmni Axton-Fisher Tobacco Company.[2][3]

Dywedir i Hughes storio'i sigaréts mewn tun gyda chrisialau menthol a ddefnyddid ganddo i leddfu symtomau ei annwyd a'i asma. Llwyddodd y tybaco i amsugno blas y mintys a gwneud y sigaréts yn haws i'w ysmygu. Dechreuodd Hughes werthu sigaréts menthol, ac erbyn 1932 ei frand 'Spud' oedd y pumed sigarét a werthodd orau drwy Unol Daleithiau America.[4]

Yn 2020 roedd chwarter y sigaréts a werthwyd drwy UDA yn rhai blas menthol. Dengys ynmchwil diweddar ei bod yn anoddach roi'r gorau i ysmygu sigaréts menthol na rhai cyffredin.


Cyfeiriadau

  1. "Process of Treating Cigarette Tobacco". United States Patent Office.
  2. "Spud"++of+Mingo+Junction,+Ohio&source=bl&ots=5HPNihfSij&sig=ACfU3U0YoOx23N8kFZh1QziFtnTc6MUbQA&hl=en&sa=X&ved=2ahUKEwiXueezhcLpAhUYaRUIHbr8AnEQ6AEwAHoECAoQAQ#v=onepage&q=Lloyd%20Hughes%20"Spud"%20%20of%20Mingo%20Junction%2C%20Ohio&f=false Precision Community Health: Four Innovations for Well-being gan Bechara Choucair; Island Press.; adalwyd 20 Mai 2020.
  3. Annual Report of the Commissioner of Patents gan United States. Patent Office; adalwyd 20 Mai 2020.
  4. slate.com; Cyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol yn y new Scientist; adalwyd 20 Mai 2020.

Cymry'r 20fed ganrif