Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:15, 22 Mai 2020
Trysorlys cenedlaethol Unol Daleithiau America yw Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Department of the Treasury; USDT)[2] sydd yn un o adrannau gweithredol llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau.[3] Mae'r adran yn goruchwylio'r Biwro Engrafio ac Argraffu a Bathdy yr Unol Daleithiau, y ddwy asiantaeth sydd yn gyfrifol am gynhyrchu'r holl bapurau doleri a darnau arian cyfred a gylchredir gan y Trysorlys yn y system gyllidol wladol. Cesglir holl drethi ffederal yr Unol Daleithiau gan yr USDT drwy'r Gwasanaeth Cyllid Gwladol, ac mae'r adran hefyd yn rheoli offerynnau dyled y llywodraeth ffederal, yn trwyddedu ac arolygu banciau a banciau cynilion, ac yn cynghori Cyngres yr Unol Daleithiau ac adran weithredol y llywodraeth am bolisi cyllidol. Gweinyddir yr USDT gan Ysgrifennydd y Trysorlys, un o aelodau'r Cabinet. Mae Trysorydd yr Unol Daleithiau yn meddu ar ddyletswyddau statudol cyfyng ac yn cynghori'r Ysgrifennydd am bynciau megis bathu arian a chynhyrchu'r arian cyfred.[4] Ymddengys llofnodion yr Ysgrifennydd a'r Trysorydd ar holl bapurau doleri'r Unol Daleithiau a gyhoeddir i fanciau'r Gronfa Ffederal.[5]
Sêl Adran y Trysorlys | |
Baner Adran y Trysorlys | |
Adeilad y Trysorlys | |
Gorolwg Agency | |
---|---|
Ffurfiwyd | Medi 2, 1789 |
Preceding agency |
|
Math | Adran gweithredol |
Awdurdodaeth | Llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau |
Pencadlys | Adeilad y Trysorlys 1500 Pennsylvania Avenue, NW Washington, D.C., UDA 38°53′54″N 77°2′3″W / 38.89833°N 77.03417°WCyfesurynnau: 38°53′54″N 77°2′3″W / 38.89833°N 77.03417°W |
Gweithwyr | 87,336 (2019) |
Cyllid blynyddol | $20 biliwn (2019)[1] |
Swyddogion Asiantaeth |
|
Child agencies |
|
Gwefan | www.treasury.gov |
Crewyd Adran y Trysorlys gan Ddeddf Gyngresol ym 1789 er mwyn rheoli cyllid y llywodraeth, a chymerodd Alexander Hamilton ei lw yn Ysgrifennydd cyntaf y Trysorlys ar 11 Medi 1789.[6] Penodwyd Hamilton gan yr Arlywydd George Washington ar gyngor yr ariannwr Robert Morris, dewis cyntaf Washington, a wrthododd y swydd.[7] Sefydlwyd system ariannol gynnar yr Unol Daleithiau gan Hamilton, a oedd yn un o aelodau blaenllaw gweinyddiaeth Washington.[8] Ymddengys portread Hamilton ar wyneb blaen y papur $10, a llun o adeilad Adran y Trysorlys, yn Washington, D.C., ar ei wrthwyneb.[9] Ysgrifennydd cyfredol y Trysorlys ydy Steven Mnuchin, a gafodd ei dderbyn gan Senedd yr Unol Daleithiau ar 13 Chwefror 2017 wedi iddo gael ei enwebu gan yr Arlywydd Donald Trump.[10] Mae swydd y Trysorydd yn wag ar hyn o bryd, wedi i Jovita Carranza ymddiswyddo ar 15 Ionawr 2020.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ "Department of Treasury - List of Federal Departments".
- ↑ Donald A. Torres (1985). Handbook of Federal Police and Investigative Agencies. Greenwood Publishing Group. t. 275. ISBN 0313245789.
- ↑ "An Act to Establish the Treasury Department". September 2, 1789. Cyrchwyd 2018-10-11.
- ↑ "The Treasurer". U.S. Department of the Treasury. Cyrchwyd 6 May 2018.
- ↑ Crutsinger, Martin (15 November 2017). "New money: Mnuchin and Carranza signatures now on the dollar bill". USA Today. Gannett Satellite Information Network, LLC. The Associated Press. Cyrchwyd 6 May 2018.
- ↑ "Appointment as Secretary of the Treasury".
- ↑ Adams, Jonathan. "Department of the Treasury". George Washington Digital Encyclopedia. Mount Vernon Ladies' Association. Cyrchwyd 6 May 2018.
- ↑ Scanlan, Laura Wolff (2006). "Alexander Hamilton: the man who modernized money". Humanities: The Magazine of the National Endowment for the Humanities 27 (1). https://www.neh.gov/humanities/2006/januaryfebruary/feature/alexander-hamilton. Adalwyd 6 May 2018.
- ↑ "$10". U.S. Currency Education Program. Cyrchwyd 6 May 2018.
- ↑ Rappeport, Alan (13 February 2017). "Steven Mnuchin is confirmed as Treasury Secretary". The New York Times (Page A19). The New York Times Company. Cyrchwyd 6 May 2018.
- ↑ "Jovita Carranza: Treasurer, U.S. Department of the Treasury". U.S. Department of the Treasury. Cyrchwyd 6 May 2018.