Paul Volcker: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
B dol
Llinell 2:
[[Banciwr]] ac [[economegydd]] [[Americanwyr|Americanaidd]] oedd '''Paul Adolph Volcker''' ([[5 Medi]] [[1927]] – [[8 Rhagfyr]] [[2019]]) a fu'n gadeirydd [[y Gronfa Ffederal]] o 1979 i 1987.
 
Ganed yn [[Cape May, New Jersey]], i deulu o dras [[Americanwyr Almaenig|Almaenig]]. Astudiodd hanes, economeg, a gwyddor gwleidyddiaeth ym [[Prifysgol Princeton|Mhrifysgol Princeton]] i ennill ei radd baglor yno yn 1949, a derbyniodd ei radd meistr mewn economi wleidyddol a llywodraeth o [[Prifysgol Harvard|Harvard]] yn 1951. Astudiodd hefyd am gyfnod yn [[Ysgol Economeg Llundain]] cyn iddo ymuno â Chronfa Ffederal Efrog Newydd yn swydd economegydd yn 1952. Treuliodd chwarter canrif cyntaf ei yrfa yn gweithio yn [[Wall Street]] ac yn [[Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau|Adran y Trysorlys]].<ref>{{eicon en}} Will Hutton, "[https://www.theguardian.com/business/2019/dec/24/paul-volcker-obituary Paul Volcker obituary]", ''[[The Guardian]]'' (24 Rhagfyr 2019). Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2019.</ref>
 
Fe'i penodwyd yn gadeirydd y Gronfa Ffederal, banc canolog yr Unol Daleithiau, gan yr Arlywydd [[Jimmy Carter]] yn Awst 1979.