Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B fformatio
B gair yn ormod
Llinell 4:
Ganed yn [[Fienna]], [[Archddugiaeth Awstria]], yn ail fab i [[Leopold I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] a'i wraig Eleonore Magdalene Therese. Yn sgil marwolaeth ei gefnder [[Siarl II, brenin Sbaen]] yn 1700, Siarl oedd un o'r rhai i hawlio'r goron yn [[Rhyfel Olyniaeth Sbaen]] (1701–14). Cydnabuwyd ei hawl gan [[Teyrnas Lloegr|Loegr]], [[Taleithiau Unedig yr Iseldiroedd|yr Iseldiroedd]], [[Teyrnas Portiwgal|Portiwgal]], a'r rhan fwyaf o'r [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Er gwaethaf, llwyddodd Siarl i reoli [[Tywysogaeth Catalwnia]] yn unig. Bu farw yr Ymerawdwr Leopold yn 1705, a fe'i olynwyd gan frawd hŷn Siarl, [[Joseff I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Joseff I]]. Wedi marwolaeth Joseff yn 1711, etifeddodd Siarl holl diriogaethau'r [[Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd]] a theitlau'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig, [[Brenin Hwngari]], [[Brenin Croatia]], [[Brenin Bohemia]], ac [[Archddug Awstria]]. Bellach, nid oedd ei gynghreiriaid yn fodlon iddo sicrhau Sbaen hefyd, a chafodd [[Philip V, brenin Sbaen|Philip V]] o Dŷ Bourbon ei gydnabod yn frenin Sbaen gan Gytundeb Utrecht yn 1713. Er iddo orfod ffoi o Sbaen, parhaodd y brwydro rhwng lluoedd Siarl â'r [[Teyrnas Ffrainc|Ffrancod]] nes Cytundeb Rastatt yn 1714, ac enillodd Siarl ambell diriogaeth yn [[yr Eidal]].<ref name=EB/>
 
Trodd Siarl ei sylw i'r dwyrain, ac enillodd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd diriogaethau'r Banat, Serbia, Oltenia, a gogledd Bosnia oddi ar [[yr Ymerodraeth Otomanaidd]] yn rhyfel 1716–18. Sefydlwyd Cwmni Oostendse yn 1722 i gystadlu'n erbyn y Prydeinwyr a'r Iseldirwyr yn [[y Byd Newydd]] ac [[De Ddwyrain Asia|India'r Dwyrain]], a bu hwnnw'n dwyn elw i'r Hapsbwrgiaid cyn i [[Teyrnas Prydain Fawr|Deyrnas Prydain Fawr]] orfodi ei ddiwedd yn 1731 er mwyn ymgynghreirio â'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd lluoedd Siarl eu gorchfygu yn [[Rhyfel Olyniaeth Pwyl]] (1733–35) a chollodd y Hapsbwrgiaid deyrnasoedd [[Teyrnas Napoli|Napoli]] a [[Teyrnas Sisili|Deyrnas Sisili]] i'r Bourboniaid. Bu'r Otomaniaid yn drech ar y Hapsbwrgiaid yn rhyfel 1737–39, ac ildiodd Siarl ei diriogaethau a enillwyd ugain mlynedd ynghynt yn ôl iddynt.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Charles-VI-Holy-Roman-emperor |teitl=Charles VI (Holy Roman emperor) |dyddiadcyrchiad=2 Ebrill 2020 }}</ref>
 
Priododd Siarl ag Elisabeth Christine, Tywysoges Brunswick-Wolfenbüttel, yn 1708, a bu farw eu hunig fab, Leopold, yn saith mis oed. Yn niwedd ei deyrnasiad, ymdrechodd Siarl i sicrhau olyniaeth ei ferch hynaf, [[Maria Theresa]], yn seiliedig ar y Datganiad Pragmatig a gyhoeddwyd ganddo yn 1713. Bu farw Siarl yn Fienna yn 1740 yn 55 oed. Er gwaethaf y Datganiad Pragmatig, gwrthwynebwyd hawl Maria Theresa i'r goron gan sawl ymhonnwr, a sbardunwyd [[Rhyfel Olyniaeth Awstria]] (1740–8).