Hanes Israel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
B s
Llinell 1:
[[Delwedd:UN Partition Plan For Palestine 1947 cy.svg|bawd|290px|Cynllun aaa basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig i rannu Israel yn ddwy wlad; 1947.<ref>Mae'r map gwreiddiol i'w gael [https://commons.wikimedia.org/wiki/File:UNGA_Resolution_181_(II)._Future_government_of_Palestine_Annex_A_Plan_of_Partition_with_Economic_Union.gif yma].</ref>]]
Dechreuodd hanes y wladwriaeth fodern [[Israel]] pan sefydlodd [[Theodor Herzl]] y mudiad [[Seionaidd]] ar ddiwedd y 19g. Anogodd y genedl [[Iddew]]ig i ddychwelyd i'w mamwlad hanesyddol yn [[y Tir Sanctaidd]]. Ymfudodd miloedd o Iddewon i [[Palesteina|Balesteina]], oedd ar y pryd yn rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]]. Cyhoeddodd y llywodraeth Brydeinig ei nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig drwy [[Datganiad Balfour|Ddatganiad Balfour]] (1917), ac ym 1922 cafodd [[Palesteina (Mandad)|mandad i lywodraethu Palesteina]] ei roi i'r [[Deyrnas Unedig]] gan [[Cynghrair y Cenhedloedd|Gynghrair y Cenhedloedd]]. Wedi erledigaeth gan y [[Natsïaid]], a gyrhaeddodd ei hanterth yn [[yr Holocost]], ymfudodd niferoedd mawrion o Iddewon i Balesteina yn y 1930au a'r 1940au. Cynyddodd tensiynau rhwng yr Iddewon a'r Arabiaid brodorol, ac wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd cefnogodd [[y Cenhedloedd Unedig]] ffurfio ddwy wladwriaeth ochr yn ochr. Gwrthodwyd hyn gan yr Arabiaid, a ffurfiwyd gwladwriaeth Israel yn unig ar 14 Mai 1948 wrth i'r Prydeinwyr encilio o'r wlad.