Dylunio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Caiff '''dylunio''', ei ystyried fel arfer yn [[arlunio]], [[peirianneg]], [[pensaerniaethpensaernïaeth]], ac ym meysydd [[creadigol]] eraill. Yn y broses o ddylunio, mae '''dylunydd''' fel arfer yn ystyried agweddau [[estheteg]], [[gweithrediad]], a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am [[ymchwil]], [[meddwl]], [[modelu]], addasu, ac ail-ddylunio helaeth.
 
== Athroniaeth dylunio ==
Llinell 7:
 
=== Y Broses Ddylunio ===
''Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau golynolcanlynol:''
*Dylunio Cyn-cynhyrchu
** [[Briff dylunio]] - datganiad o dargedau'r dylunio: amlinelliad o'r broblem ac ar bwy y mae'n effeithio; yr angen sy'n codi o'r broblem; yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn (dylunio a gwneud); sut y bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio; a'r amgylchedd y bydd yn cael ei ddefnyddio ynddo.
** [[Dadansoddiad]] - Dadansoddi targedau'r dylunio presennol. Er enghraifft, esboniwch pam y gallai fod angen am gynnyrch newydd: mae problemau gyda chynnyrch sy'n bod eisoes; gallai perfformiad dyluniad sy'n bod eisoes gael ei wella; neu mae bwlcbwlch yn y farchnad ac mae'r dylunydd yn dymuno ei lenwi.
** [[Ymchwil]] - Ymchwilio'r atebion dylunio yn y maes ac mewn meysydd eraill â thargedau tebyg. Gall ymchwil helpu'r broses ddylunio drwy wirio bod pobl yn wir eisiau'r cynnyrch; darganfod beth sy'n gwneud cynnyrch sy'n bod eisoes yn dda neu'n wael; a darganfod y defnyddiau, y cydrannau a weithgynhyrchwyd ymlaen llaw, y technegau a'r cynhwysion y gallwch eu defnyddio, a sut y byddant yn effeithio ar y gweithgynhyrchu a'r costau gwerthu. Er enghraifft, gall [[holiadur]] alluogi'r dylunydd i nodi ei grŵp targed a darganfod tueddiadau'r farchnad. Gellir yna lunio dadansoddiad ymchwil, sef casgliadau ar sail yr ymchwil.
** [[Manyleb ddylunio]] - Penodi anghenion yr ateb dyluniadol. Mae'r fanyleb ddylunio yn disgrifio cyfyngiadau a phosibiliadau'r cynnyrch. Mae'n rhoi amodau y bydd yn rhaid i'r cynnyrch eu cyflawni. Mewn achos cynnyrch materol yn enwedig, gallai rhai pwyntiau mewn manyleb ddylunio fod yn anodd eu hasesu drwy edrych ar y cynnyrch yn unig oherwydd bydd angen cael rhywun i brofi'r cynnyrch neu ei fodelu ar ôl iddo gael ei wneud a darparu adborth, er enghraifft os oes yn rhaid i'r cynnyrch deimlo'n gysurus yn y llaw.
** [[Datrys problemau]] - Syniadoli a dogfennu'r atebion dyluniadol. Ymhlith yr amryw dechnegau o ddechrau'r cam hwn mae creu [[bwrdd ysbrydoli]], tanio syniadau, neu rannu'r dasg yn rhannau llai, er enghraifft dylunio estheteg y cynnyrch ac yna edrych ar y dechnoleg berthnasol.
** [[Cyflwyniad]] - Cyflwyno'r atebion dyluniadol, gan gynnwys darluniadau gydag anodiadau a sylwadau. Dylai'r dylunydd gynnwys gwybodaeth megis defnyddiau, maint, defnyddiwr, siâp, cost, manteision ac anfanteision, dull cynhyrchu, a swyddogaethau. Gellir gylfwynocyflwyno'r dyluniadau mewn nifer o ddulliau a thechnegau, megis braslun llawrydd, tafluniad isomedrig, neu dafluniad orthograffig.
*Dylunio yn ystod Cynhyrchu
** [[Datblygu]] - parhâdparhad a gwellhâdgwellhad o'r ateb dyluniadol, yn aml drwy greu rhagor o frasluniau, cyfuno syniadau, ac adolygu ac ail-lunio'r syniadau.
** [[Profi]] - Profi'r ateb dyluniadol, a'i [[modelu|fodelu]] os oes angen. Pwrpas y cam hwn yw i roi cynnig ar wahanol agweddau ar y dyluniad ac i sicrháusicrhau beth yw'r agweddau gorau.
*Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
** [[Gweithrediad]] - Cyflwyno'r ateb dyluniadol i'r amgylchedd terfynnolterfynol
** [[Gwerthfawrogi]] a [[Canlyniad|Chanlyniadu]] - Crynodeb o'r broses a'r canlyniadau, gan gynnwys [[beirniadaeth]] a chynigion am wellhad
* Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.
 
=== Diffinio dylunio ===
Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o [[Arlunio]], neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywynrhywun heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn [[Graffeg]], gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng [[Celf gain]] a [[Celf masnachol|Chelf masnachol]].
 
Ystyrir [[peiriannu]]'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaenausylfaeni gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.
 
Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddyluwrddylunwyr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.
 
== Gweler hefyd==