Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Marthuws (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu Cefnamwlch.
Llinell 57:
=Hanes=
Mae cyfeiriad at Dudweiliog fel pentref bach yn ôl yn y C13, gyda'i heglwys yn gyrchfan ar ffordd y pererin yn Llŷn. Roedd Tudweiliog ar y pryd yn drefgordd o fewn Morfa o fewn [[cwmwd]] [[Cymydmaen]]. <ref>Historic Landscape Characterisation Llŷn - Area 21 The Western Coastal Plain from Llangwnadl to Porthdinllaen PRN 33494; Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd/ Gwynedd Archeological Trust </ref> Mae hanes y pentref yng nghlwm a thirfeiddianwr mawr hanesyddol yr ardal, sef Plas Cefnamwlch.
 
<br />
 
= Cefnamwlch =
Mae plasdy ac ystâd Cefnamwlch wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y pentref ar hyd y canrifoedd, a gellir gweld ei ddylanwad ar nifer o'r adeiladau Tudweiliog. Un o'r adeiladau hyn yw eglwys Sant Cwyfan a'i phenseirniwyd gan Syr George Gilbert Scott yn 1849, ar safle cyn addoldy a sonwyd amdano'n 1254.<ref>{{Cite web|url=|title=Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd|date=|access-date=29.05.2020|website=Penllyn.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Mae'r plasdy ei hun wedi ei leoli milltir i ffwrdd o ganol y pentref ac mae'r rhannau hynaf y plasdy presennol yn dyddio o'r 17C hwyr i'r 18C cynnar. Nid hwn oedd y plasdy gwreiddol, safai hwnnw mewn lleoliad sydd rŵan yn rhan o'r gerddi, a dyddiai o'r 15C hwyr nes iddo gael ei ddisodli gan y plasdy presennol a'i dynnu i lawr .Mae'r porthdy gwreiddiol a wasanaethai'r plasdy gwreiddiol yn dal i sefyll.
 
Bu Cefnamwlch yn gartref i deulu blaenllaw Griffith o Lŷn a oedd yn a dylanwad mawr yng ngwleidyddiaeth Sir Gaernarfon ar y pryd.<ref>{{Cite web|url=|title=(1686) Cefnamwlch|date=|access-date=28.05.2020|website=crwydro.co.uk/Edern/Penllech/seciwlar-secular/1686-cefnamwlch/|last=|first=(1686)Cefnamwlch|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
= Ellen Owen =