Gwerthrynion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Gorwedd y cwmwd, sydd ddim yn rhan o [[cantref|gantref]], ar ffin teyrnas [[Powys Wenwynwyn]]. Ffiniai â [[Buellt]], [[Cwmwd Deuddwr]] ac [[Arwystli]] i'r gorllewin a'r gogledd, ac â [[Maelienydd]] i'r dwyrain a rhan fach o [[Elfael]] i'r de.
 
Mae ei hanes cynnar yn ddirgelwch. Yn ôl [[Nennius]] yn yr ''[[Historia Brittonum]]'' (tua 800), sefydlwyd teyrnas yno gan y brenin [[Gwrtheyrn]] (''Vortigern'') (fl. tua 450 efallai). Ond gan fod lle i amau bodolaeth y brenin traddodiadol hwnnw mae'n bosibl mae ymgais Nennius i esbonio'r enw a geir yn y traddodiad. Yn ôl Nennius, roedd [[Sant]] [[Garmon]] wedi ceisio dwyn perswadperswâd ar Wrtheyrn i droi'n Gristion ac ymatal rhag cael perthynas [[llosgach]] gyda'i ferch. Ffoes y brenin i'r bryniau a sefydlodd ''Gwrtheyrnion'' ([[Lladin]]: ''Guorthegirnaim''). Llechodd yno gyda'i ferch a'i wreigiau rhag llid Garmon.<ref>Nennius: ''British History and Welsh Annals'', gol. John Morris (Phillimore, 1980), ''cap.'' 47.</ref>
 
Heddiw mae'r cwmwd yn cyfateb i ran o ardal [[Maesyfed]], [[Powys]]. Canolfan weinyddol y cwmwd oedd [[Rhaeadr Gwy]] lle codwyd [[Castell Rhaeadr Gwy]] gan yr [[Arglwydd Rhys]] yn [[1177]]. Ar adegau roedd Gwerthrynion yn uno gyda [[Buellt]] ac yn cael ei reoli gan gangen o deulu brenhinol [[Teyrnas Deheubarth|Deheubarth]]. Cafodd ei gipio gan arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] tua'r flwyddyn [[1100]] a'i dal am gyfnodau gan deulu'r Mortimeriaid<ref>R.R. Davies, ''Conquest, coexistence and change, Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991), Atodiad.</ref>. Daeth i'w meddiant yn derfynnolderfynol ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] yn [[1282]]-[[1283|83]] ac yn nes ymlaen yn rhan o [[Sir Faesyfed]].
 
==Cyfeiriadau==