Ystrad Meurig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Cywiro gwall ynganiad dwbwl using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Pentref bychan, [[Cymuned (llywodraeth leol)|cymuned]] a phlwyf uwchben [[Dyffryn Teifi]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] yw '''Ystrad Meurig''' (neu '''Ystradmeurig'''). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng [[Pontrhydfendigaid]] i'r dwyrain a [[Lledrod]] i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o [[Aberystwyth]].
 
Saif y pentref ger tro ar [[Afon Teifi]] filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger [[Cors Caron]]. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion [[castell Ystrad Meurig]] a godwyd gan [[Gilbert de Clare]] ym [[1116]]. Llosgwyd y [[castell mwnt a beili]] hwnnw gan meibion [[Gruffudd ap Cynan]] yn [[1137]]; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnolderfynol yn [[1199]].<ref>''Cestyll Ceredigion''.</ref> Mae gwaith archaeolegol diweddar ar y safle wedi canfod olion o'r hyn a allai fod yn llys ac amddiffynfa sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol Cynnar.<ref>[http://www.lamp.ac.uk/strata-florida/research_project/landscape_project.html Ymchwil archaeolegol ar y safle]</ref>
 
Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir [[bryngaer]] fechan.