Charles Perrault: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
BDim crynodeb golygu
Llinell 17:
[[Delwedd:GustaveDore She was astonished to see how her grandmother looked.jpg|250px|bawd|[[Gustav Doré]]: "[[Hugan Goch Fach]] a'r Blaidd"]]
 
Ond er ei fod yn llenor penigamp yn sawl maes, fe'i cofir heddiw fel awdur ''[[Contes de ma mère l’Oye]], ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités'' (neu "''Contes de Perrault''"/"''Chwedlau Perrault''"), a gyhoeddwyd yn ei ffurf derfynnolderfynol ynym [[1697]]. Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur. Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:
 
* ''La Marquise de Salusses ou la Patience de Griselidis'' (1691)
Llinell 24:
* ''La Belle au bois dormant'' (1696) ("''Sleeping Beauty''")
* ''[[Contes de ma mère l’Oye]], Histoires ou Contes du temps passé avec des moralités'' (1697). Cyfrol sy'n cynnwys:
** ''La Belle au bois dormant'' (''[[Y Dywysoges Hir Ei Chwsg]]'' neu "''Sleeping Beauty''")
** ''Le Petit Chaperon rouge'' (''[[Hugan Goch Fach]]'' neu "''Little Red Riding Hood''")
** ''La Barbe bleue'' (Barf Las)
** ''Le Maître chat ou le Chat botté'' ([[Pws Esgid Uchel]]/"''Puss in Boots''")
** ''Les Fées'' ([[Y Tylwyth Teg]])
** ''Cendrillon ou la petite pantoufle de verre'' ([[Sinderela]])
** ''Riquet à la houppe''
** ''Le Petit Poucet'' ([[Bawd Fach]] neu ''Tom Thumb'')
 
Copiwyd ac addaswyd y chwedlau hyn gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg [[moes]]oli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes [[Hugan Goch Fach]] (''Little Red Riding Hood'') diolch i fersiwn [[y Brodyr Grimm]] a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coedwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.