Bando: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Ar gyfer y grŵp pop Cymraeg o'r 1980au, gweler [[Bando (band)]]''
 
Math o chwarae a fu'n boblogaidd gan y werin ledled [[Cymru]] oedd '''bando'''. Roedd yn perthyn i deulu [[hoci (campau)|campau hoci]] yn debyg i [[hoci]] neu [[hurley]] ond amrywiai'r rheolau o fro i fro. Roedd yn arbennig o boblogaidd yn y [[18g]] ond parhaodd mewn rhannau o'r wlad hyd tua diwedd y [[19g]].
 
Arferid ei chwarae ar feysydd gwastad, weithiau ar draethau, rhwng dau dîm o hyd at hanner cant o chwaraewyr yr un. Fel chwaraeon gwerinol eraill, nid oedd rheolau pendant ar wahân i'r nod o yrru pêl i gôl ar y naill pen a'r llall o'r maes chwarae, a oedd weithiau'n eang iawn. Defnyddiai'r chwaraewyr pren wedi'i dorri'n arbennig ar gyfer y chwarae gyda math o flaen crwca: dyma'r '''bando'''.