Llyfr Gwyn Rhydderch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Llyfr Gwyn Rhydderch''' yw un o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr sydd wedi goroesi. Tybir i'r rhan fwyaf ohono gael ei ysgrifennu yn Ne Cymru tua [[1350...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Llyfr Gwyn Rhydderch''' yw un o'r [[llawysgrifau Cymreig]] pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr sydd wedi goroesi. Tybir i'r rhan fwyaf ohono gael ei ysgrifennu yn [[Ne Cymru]] tua [[1350]]. Oherwydd ei dafodiaith tybir fod y copïwr yn ŵr o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhyngddo a mynachlog [[Ystrad Fflur]]. Daw'r enw o'r ffaith i'r llyfr gael ei ysgrifennu ar gyfer y noddwr [[Rhydderch ab Ieuan Llwyd]], o [[Glyn Aeron|Lyn Aeron]], [[Ceredigion]]. Fe'i cedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Aberystwyth]] mewn dwy ran, llawygrif [[Peniarth]] 4 a Pheniarth 5 (rhanwyd y llawysgrif yn ddau tua diwedd yr [[Oesoedd Canol]]).
 
==Cynnwys==
Yn y llyfr ceir nifer o gyfieithiadau Cymraeg o destunau [[Lladin]] a [[Ffrangeg]], gan gynnwys ''[[Delw y Byd]]'', ''Efengyl Nicodemus'', ''[[Proffwydoliaeth Sibli Ddoeth]]'', [[buchedd]]au'r saint fel ''[[Buchedd Mair Wyry]]'', ''[[Buchedd Sant Catrin]]'', ''[[Buchedd Fargred]]'' a ''[[Mair o'r Aifft]]'', testunau crefyddol eraill fel ''[[Purdan Padrig]]'', ynghyd â chwedl [[Siarlymaen]] (''[[Ystorya de Carolo Magno]]'') ac ''[[Ystorya Brown o Hamtwn]]''. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 5.
 
Ond y deunydd pwysicaf o lawer yw'r testunau o'r chwedlau [[Cymraeg Canol]] a adnabyddir fel y [[Mabinogion]] (yn gamarweiniol), sef ''[[Pedair Cainc y Mabinogi]]'', ''[[Y Tair Rhamant]]'', ''[[Breuddwyd Macsen Wledig]]'', ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'' a chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'' (dim ond testun o ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' sydd eisiau). Dyma'r casgliad pwysicaf a chynharaf o chwedlau Cymraeg Canol ac eithrio ''[[Llyfr Coch Hergest]]''. Cedwir y rhain yn llawysgrif Peniarth 4.
 
==Llyfryddiaeth==