'''Llyfr Gwyn Rhydderch''' yw un o'r [[llawysgrifau Cymreig]] pwysicaf a mwyaf cynhwysfawr sydd wedi goroesi. Tybir i'r rhan fwyaf ohono gael ei ysgrifennu yn ne-orllewin [[Ne Cymru]] tua [[1350]]. Oherwydd ei dafodiaith tybir fod y copïwr yn ŵr o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] ac mae'n bosibl fod cysylltiad rhyngddo a mynachlog [[Ystrad Fflur]]. Daw'r enw o'r ffaith i'r llyfr gael ei ysgrifennu ar gyfer y noddwr [[Rhydderch ab Ieuan Llwyd]], o [[Glyn Aeron|Lyn Aeron]], [[Ceredigion]]. Fe'i cedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Aberystwyth]] mewn dwy ran, llawygrif [[Peniarth]] 4 a Pheniarth 5 (rhanwyd y llawysgrif yn ddau tua diwedd yr [[Oesoedd Canol]]).