Calfaria, Aberdâr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 27:
Dechreuodd [[Thomas Price (Calfaria, Aberdâr)|Thomas Price]] ei weinidogaeth ar gapel Carmel Penypound ym 1845. Cynyddodd yr aelodaeth yn ystod cyfnod cynnar Price a daeth yr adeilad yn rhy fach i'r gynulleidfa. Cafodd, Carmel ei drosglwyddo i achos Saesneg ac adeiladwyd capel newydd, Calfaria gerllaw. Cafodd y capel newydd ei gynllunio gan Thomas Joseph, peiriannydd pwll glo  o [[Hirwaun]]. Cost adeiladu'r capel oedd £1,400. Roedd ynddi eisteddleoedd i 840. Cafodd yr adeilad ei ymestyn ym 1859 ac adeiladwyd ysgoldy a neuadd drws nesaf i'r capel ym 1871.{{sfn|Jones|2004|pp=95-6}} Cafodd y gwasanaeth cyntaf ei gynnal  ar [[8 Chwefror]], [[1852]]. Erbyn hyn, roedd Price wedi dod yn ffigwr blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Aberdâr a Chymru, yn bennaf o ganlyniad i'w beirniadaeth danllyd yn erbyn [[Brad y Llyfrau Gleision]] a'r dystiolaeth a roddwyd i'r comisiynwyr a gyhoeddwyd y llyfrau gan y ficer Aberdâr, y Parch John Griffith.
 
Ar un adeg yn ystod gweinidogaeth Price fu gan Galfaria dros fil o aelodau, ond cafodd llawer o gannoedd ohonynt eu trosglwyddo i gapeli cangen a sefydlwyd ar anogaeth Price.{{sfn|Jones|1964|pp=153-4}} Ym 1855 cafodd capel Heolyfelin ei ffurfio fel cangen o Gapel Bedyddwyr Hirwaun. Ym 1856 cafodd 91 o aelodau Calfaria eu trosglwyddo i ffurfio eglwys Saesneg Carmel, Aberdâr. Agorwyd Bethel, Abernant, ym 1857. Ym 1849 cafodd 121 o aelodau eu trosglwyddo i ffurf capel Gwawr, Aberaman. Yn 1855, cafodd 89 eu rhyddhau i sefydlu achos yn [[Aberpennar]], ac ym 1862 cafodd 163 eu rhyddhau i gryfhau Bethel, Abernant; yn yr un flwyddyn cafodd 131 eu rhyddhau i sefydlu achos Ynyslwyd.  Ym 1865 trosglwyddwyd 49 aelod i ffurfio capel Y Gadlys. Sef cyfanswm o 927 yn cael eu rhyddhau o Galfaria i ffurfio eglwysi mewn gwahanol rannau o'r cwm. Ond ceisiodd Price i sicrhau undod <nowiki>'teulu''</nowiki>r Bedyddwyr yn y cwm trwy gynnal gweithgareddau megis gwasanaethau unedig i fedyddio aelodau newydd yn yr [[afon Cynon]] ac eisteddfodau blynyddol .{{sfn|Jones|1964|p=153}} 
[[Delwedd:Rev_Thomas_Price.jpg|bawd|Y Parchedig Dr Thomas Price]]
Cadwodd Calfaria ei goruchafiaeth ymhlith eglwysi Bedyddwyr y cwm er bod bri Price wedi ei danseilio braidd gan ei fethiant  i gefnogi'r Parch [[Henry Richard]] yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1868|Etholiad Cyffredinol 1868]] roedd yn cefnogi ymgeisyddiaeth [[Richard Fothergill]] cafodd Richard a Fothergill ill dau eu hethol. Ym 1869 bu Price yn ymweld â'r [[Unol Daleithiau]] am gyfnod o chwe mis gyda'i ferch Emily. Roedd ei angladd ym 1888 ymysg un o'r mwyaf a welwyd yn y cwm erioed.<ref>{{Cite news|url=http://welshnewspapers.llgc.org.uk/en/page/view/3027359/ART53|title=Funeral of the Late Rev. Dr Price|date=10 March 1888|work=Aberdare Times|access-date=11 November 2013}}</ref>