Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymuned (Cymru)"

Ychwanegwyd 37 beit ,  5 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Dolenni allanol: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB)
 
'''Cymuned''' yw'r uned leiaf o [[Llywodraeth leol|lywodraeth leol]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Hyd [[1974]], rhennid Cymru yn [[Plwyf|blwyfi sifil]] at bwrpas llywodraeth leol. Roedd y rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan [[Deddf Llywodraeth Leol, 1972|Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972]], diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw [[Y Barri]] gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, [[Bae Baglan]] a [[Morfa Margam]].
 
Gall pob cymuned gael [[Cyngor Cymuned]]. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Tref neu'n Gyngor Dinas lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: [[Tyddewi]] a [[Bangor]]. Rhennir dinasoedd mwy, megis [[Caerdydd]], yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinas neu Gyngor Tref yn [[Maer|Faer]]. Cynrychiolir cynghorau cymuned a thref Cymru gan [[Un Llais Cymru]].
 
Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan [[Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994|Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994,]] gall cymuned ofyn i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeisdref sirol berthnasol am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir neu fwrdeisdref sirol.
 
At bwrpas etholiad, gall cymuned gael ei rhannu yn nifer o wardiau cymunedol, neu gall fod un ward gyda'r un enw a'r un ffiniau a'r gymuned, neu gellir cyfuno mwy nag un gymuned i grau ward.