Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up, replaced: {{Reflist}} → {{cyfeiriadau}} using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Ysol Gynradd Gymraeg Bryntaf''' oedd [[ysgol Gymraeg]] gyntaf [[Caerdydd]]. Fe'i sefydlwyd yn [[1949]] gan ddod i ben (pan rhannwyd y disgyblion ymysg pedair ysgol arall Gymraeg newydd ar draws y ddinas) yn [[1980]].
 
==Hanes Sefydlu==
Cafwyd ymgais ar sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn yr 1930au. Roedd yn fwriad gan [[Gwyn M. Daniel]] a rhai eraill o selogion [[Tŷ'r Cymry (Caerdydd)|Tŷ'r Cymry]] i sefydlu ysgol yn 1937-38 ond bu i'r ddyfodiad yr [[Ail Ryfel Byd]] ac i Arglwydd Faer Caerdydd fynnu mai cyfrifoldeb y pwyllgor addysg y ddinas oedd sefydlu pob ysgol, roi taw ar y syniad. Serch hynny, fe gynhaliwyd Ysgol Gymraeg fore Sadwrn o 1943 ymlaen yn Nhŷ'r Cymry.
 
Ysgol Bryntaf oedd y drydedd ysgol gynradd benodol Gymraeg ei hiaith i'w hagor yng Nghymru (agorwyd [[Ysgol Gymraeg yr Urdd]] yn [[Aberystwyth]] ym Medi 1939 lle roedd rhaid i'r rhieni dalu ffi am y blynyddoedd cyntaf) ac agorwyd Ysgol Dewi Sant, [[Llanelli]] yn 1947, yr ysgol gyntaf i'w hagor gan awdurdod leol fel ysgol benodedig Gymraeg.