Brooklyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
}}
 
Un o bum bwrdeistref [[Dinas Efrog Newydd]], wedi'i leoli i'r de-orllewin o [[Queens]] ar ymyl orllewinol [[Long Island]] ydy '''Brooklyn'''. Enwyd y bwrdeistreffwrdeistref ar ôl y dref [[Iseldiroedd|Iseldireg]] [[Breukelen]]). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeistref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeisdref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a '''Swydd Kings''', sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog [[Efrog Newydd (talaith)|Talaith Efrog Newydd]] a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr [[Unol Daleithiau]] ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).
 
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.