Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon"

3 arall
(3 arall)
[[Delwedd:Drifts, Beinn Eunaich - geograph.org.uk - 125795.jpg|bawd|Murdo: [[Beinn Eunaich]], [[Ucheldir yr Alban]].]]
Mae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl gopaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson.
 
==Hewitt==
Acronym yw'r enw hwn o'r Saesneg: The '''Hewitts''' are '''H'''ills in '''E'''ngland, '''W'''ales and '''I'''reland over '''T'''wo '''T'''housand feet (609.6 m). Mae eu huchder cymharol o leiaf 30 [[metr]] (98 tr). Ceir 527 Hewitt i gyd: 211 yn Iwerddon, 178 yn LLoegr a 138 yng Nghymru. Yn wreiddiol cyfrifwyd y Mynydd Du yn y ddwy wlad: Cymru a Lloegr ond ers 1997 caiff ei ystyried i fod yng Nghymru'n unig.
 
==Nuttall==
Mynyddoedd a bryniau dros 2,000 troedfedd (610 m), yng Nghymru a Lloegr ydy Nuttalls. Rhaid iddynt gael uchder cymharol o 15 metr (49 tr) o leiaf. Ceir 443 Nuttall: 253 yn Lloegr a 190 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan John ac Anne Nuttall a chyhoeddwyd mewn tair cyfrol o'r enw ''The Mountains of England & Wales''.
 
==Dewey==
Bryniau a mynyddoedd sydd rhwng 500 metr (1,640 tr) a 609.6 m (2,000 tr) yng Nghymru neu Lloegr yw Dewey; mae'n rhaid i'w huchder cymharol hefyd fod yn fwy na 30 m (98 tr). Caiff y rhestr swyddogol ohonynt ei gadw gan Michael Dewey a'i gyhoeddi yn ei lyfr ''Mountain Tables''.
 
 
{| class="wikitable centre"