Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
3 arall
del
Llinell 33:
 
==Hewitt==
Acronym yw'r enw hwn o'r Saesneg: ''The '''Hewitts''' are '''H'''ills in '''E'''ngland, '''W'''ales and '''I'''reland over '''T'''wo '''T'''housand feet (609.6 m)''. Mae eu huchder cymharol o leiaf 30 [[metr]] (98 tr). Ceir 527 Hewitt i gyd: 211 yn Iwerddon, 178 yn LLoegr a 138 yng Nghymru. Yn wreiddiol cyfrifwyd y Mynydd Du yn y ddwy wlad: Cymru a Lloegr ond ers 1997 caiff ei ystyried i fod yng Nghymru'n unig.
 
==Nuttall==
[[Delwedd:Llyn Dywarchen - geograph.org.uk - 331792.jpg|bawd|[[Moel Ysgyfarnogod]] - sy'n Hewitt ac yn Nuttall.]]
Mynyddoedd a bryniau dros 2,000 troedfedd (610 m), yng Nghymru a Lloegr ydy Nuttalls. Rhaid iddynt gael uchder cymharol o 15 metr (49 tr) o leiaf. Ceir 443 Nuttall: 253 yn Lloegr a 190 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan John ac Anne Nuttall a chyhoeddwyd mewn tair cyfrol o'r enw ''The Mountains of England & Wales''.