Manhattan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
|Gwefan= http://manhattanbp.nyc.gov}}
 
Un o bum bwrdeistref [[Dinas Efrog Newydd]] yw '''Manhattan'''. Gyda phoblogaeth o fwy na 1.6 miliwn yn byw mewn ardal o 59 cilometr sgwâr, dyma'r ardal mwyaf poblog yn yr [[Unol Daleithiau]] gyda mwy na 27,000 o drigolion i bob cilometr sgwâr. Manhattan yw'r sir fwyaf cyfoethog yn yr Unol Daleithiau, gyda incwm personol o dros [[Doler yr Unol Daleithiau|$]]100,000 y pen yn 2005. Mae'r bwrdeistreffwrdeistref yn cynnwys Ynys Manhattan, [[Ynys Roosevelt]], [[Ynys Randalls]], bron i un rhan o ddeg o [[Ynys Ellis]], y rhan uwch y dwr i [[Ynys Liberty]], sawl ynys llai a rhan fechan o'r prif dir [[Talaith Efrog Newydd]] gyferbyn a'r [[Y Bronx|Bronx]].
 
Mae Manhattan yn ganolfan fasnachol, ariannol a diwylliannol yr Unol Daleithiau a'r byd. Lleolir y rhan fwyaf o gwmnïau radio, teledu a chyfathrebu technolegol yr Unol Daleithiau yma, ynghyd â nifer o gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau. Mae gan Manhattan nifer o leoliadau byd enwog, atyniadau twristaidd, amgueddfeydd a phrifysgolion. Yma hefyd mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig. Ym Manhattan mae ardal fusnes fwyaf yr Unol Daleithiau, ac yma mae [[Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd]] a [[NASDAQ]]. Yn ddi-os, dyma canol Dinas Efrog Newydd ac ardal metropolitaidd Efrog Newydd, a lleolir cynulliad y ddinas a'r canran fwyaf o waith, busnes a gweithgareddau hamdden.