Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sgorio"

No change in size ,  blwyddyn yn ôl
Arthur Emyr oedd y cyflwynydd gwreiddiol ond pan adawodd y rhaglen ym [[1995]], [[Amanda Protheroe Thomas]] gymrodd yr awenau, gan ddod yn un o'r merched cyntaf i gyflwyno rhaglen deledu bêl-droed. Yn [[2002]] daeth [[Morgan Jones]] yn drydydd cyflwynydd y gyfres cyn symud i arwain y rhaglenni byw ar brynhawn Sadwrn yn 2008 ochr yn ochr â [[Malcolm Allen]], gyda [[Nic Parry]] ac [[Alun Williams]] yn cyflwyno ar nos Lun.
 
Rhwng 2010 a 2014 ymunodd [[Dylan Ebenezer]] â'r tîm fel cyflwynydd a sylwebydd gyda chyn ymosodwr [[Celtic FC|Celtic]] a Chymru, [[John Hartson]] hefyd yn ymuno fel un o'r gwybodusion. Ar gyfer tymor 2014-2015 symudodd Sgorio i fod yn rhan o raglen chwaraeon [[Clwb]] ar ddydd Sul gyda [[Nicky John]] yn cyflwyno o'r meysydd pêl-droed ond dychwelodd i brynhawn Sadwrn ar gyfer tymor 2015-16 gyda'r cyn bêl-droediwr rhyngwladol [[Gwennan Harries]] yn ymuno â'r tîm cyflwyno<ref>{{cite web |url=http://www.s4c.cymru/sgorio/2016/gwennan-harries-yn-ymuno-a-thim-sgorio-2/ |title=Gwennan Harries yn ymuno â thîm Sgorio |publishedpublisher=s4c.cymru/sgorio |work=Sgorio}}</ref>.
 
== Rhaglenni Eraill ==