Rowland Vaughan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 5:
Ganed Rowland Vaughan tua 1587 yn fab i John Vaughan a'i wraig Elin, perchnogion plasdy hanesyddol [[Caer Gai]], plwyf [[Llanuwchllyn]], [[Meirionnydd]]. Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] ond does dim cofnod i ddangos iddo raddio yno. Priododd Jane ferch Edward Price o Dref-pysg yn Llanuwchllyn. Cawsant nifer o blant, hyd at wyth efallai.
 
Cymerodd Vaughan ran flaenllaw yn y cyntaf a'r ail o'r Rhyfeloedd Cartref. Roedd yn [[Siryfion Meirionnydd yn yr 17eg ganrif|Uchel Siryf Meirionnydd]] yn 1642-43. Dywedir iddo ymladd fel capten ar ochr y brenin [[Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl]] ym [[Brwydr Naseby|Mrwydr Naseby]]. Pan ddaeth lluoedd y [[Gwerinlywodraeth Lloegr|Werinlywodraeth]] i Feirion llosgwyd Caer Gai i'r llawr ganddynt i ddial arno. Cafodd loches yng Nghilgellan ar lethrau [[Aran Benllyn]]. Yn [[1650]] fe'i dalwyd a chafodd ei garcharu yng [[Castell Caer|Nghaer]] am gyfnod. Roedd bywyd yn galed arno ar ôl y rhyfel a bu rhaid iddo fenthyg arian gan berthnasau ar fwy nag un achlysur. Bu farw ar 18 Medi, 1667.
 
==Gwaith llenyddol==