Cynaliadwyedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B tr
Llinell 4:
Mae [[ecosystem]]au ac [[amgylchedd]]au iach yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i fodau dynol ac organebau eraill. Ceir dwy brif ffordd o leihau effaith negyddol bodau dynol ar yr amgylchedd a gwella [[gwasanaethau ecosystemau]]. Y cyntaf yw [[rheolaeth amgylcheddol]]; mae'r dull hwn yn seiliedig yn bennaf ar wybodaeth a geir o [[gwyddor daear|wyddor daear]], [[gwyddor yr amgylchedd]], a [[bioleg cadwraeth]]. Yr ail ddull yw rheoli [[treuliant (economeg)|treuliant]] adnoddau gan fodau dynol, sy'n seiliedig yn bennaf ar wybodaeth [[economeg|economaidd]].
 
Mae cynaladwyedd yn rhyngwynebu ag economeg trwy ganlyniadau cymdeithasol ac ecolegol gweithgarwch economaidd. Mae economeg gynaladwyedd yn ymwneud ag economeg ecolegol gan integreiddio elfennau cymdeithasol, diwylliannol, iechyd, ac ariannol. Mae symud tuag at gynaladwyedd hefyd yn her gymdeithasol sy'n ymwneud â [[cyfraith|chyfraith]] genedlaethol a [[cyfraith ryngwladol|rhyngwladol]], [[cynllunio trefol]] a [[cludiant|chludiant]], [[dull o fyw (cymdeithaseg)|dulliau o fyw]] lleol ac unigol, a [[prynwriaeth moesegolfoesegol|phrynwriaeth foesegol]]. Mae ffyrdd cynaliadwy o fyw yn cymryd nifer o ffurfiau gan gynnwys ad-drefnu amodau byw (e.e. [[ecobentref]]i, [[ecofwrdeistref]]i a [[dinas gynaliadwy|dinasoedd cynaliadwy]]), ail-werthuso sectorau economaidd ([[permaddiwylliant]], [[adeiladu'n wyrdd]], [[amaethyddiaeth gynaliadwy]]) neu arferion gwaith ([[pensaernïaeth gynaliadwy]]), defnyddio gwyddoniaeth er mwyn datblygu technolegau newydd ([[technolegau gwyrdd]], [[ynni adnewyddadwy]]), a newidiadau mewn bywydau unigol sy'n cynilo adnoddau naturiol.
 
[[Categori:Amgylchedd]]