Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwrthwynebydd cydwybodol"

Ychwanegwyd 1,649 beit ,  11 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Cyfeiriadau: Manion using AWB)
Person sy'n gwrthwynebu [[hyfforddiant milwrol|hyfforddiant]] a [[gwasanaeth milwrol]] ar sail [[cydwybod]] yw '''gwrthwynebydd cydwybodol'''. Gall person gwrthwynebu [[gorfodaeth filwrol]] ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/133266/conscientious-objector |teitl=conscientious objector |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2014 }}</ref> Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol.
 
Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi fel arall pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro â system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol.
 
Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin [[Rhufeinig|Rufeinig]] yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian.
 
Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, [[Crynwyr]] yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau di-filwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol.
 
Erbyn [[yr Ail Ryfel Byd]], yn dilyn Deddf y Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym.
 
 
== Cyfeiriadau ==