Cog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 43:
====Yr 21ain ganrif====
[[File:MapCogauCovid.jpg|thumb|Dosbarthiad fesul categor (0-3) niferoedd y cogau clywyd o erddi domestig dros Gymru yn ystod Caethiwio Covid19 hyd 10 Mai 2020]]
Yn ystod cyfnod unigryw Covid19 yng ngwanwyn 2020 pan gafodd mwyafrif poblogaeth Cymru (a'r byd i gyd o ran hynny) eu caethiwo yn eu cartrefi o ail hanner mis Mawrth ymlaen, penderfynwyd cynnal ar Cymuned Llên Natur (Facebook) arolwg i statws y gog yng Nghymru trwy fanteisio ar yr amodau arbennig yma. A beth oedd yr amodau?: a) pawb yn gaeth i'w cartrefi a'i gerddi am amser hir (felly samplo cyson), b) arolygon o dywydd braf (cysoder amodau) a wireddwyd, c) y mwyafrif yn gyfarwydd â chân y gog, ac ch) poblogrwydd nodi'r 'cwcw gyntaf' a'r llên gwerin yn gysylltiedig â hynny. Prif fantais y sefyllfa hon oedd y cyfle gafwyd i bobl nodi faint o gogau a glywyd dros gyfnod penodol (gan gynnwys 'dim cogau')<ref>www.llennatur.cymru/Bwletinau (yn y wasg tan Gorffennaf 2020)</ref>. Dengys y canlyniadau ar y map: yn gryno, mae'r gog yn dal ei dir yn dda yn yr ucheldir rhwng, er enghraifft, Dolgellau a'r Bala a grugdir Uwch Gwyrfai, Arfon, ond mae ei absenoldeb ym Môn, a gwastadeddau Arfon a Llŷn yn drawiadiol, gyda sefyllfa wan yn cael ei amlygu ar sail llai o ddata yn y de orllewin a Chlwyd. Ymarferiad [[Gwyddoniaeth y Werin]] (''Citizen Science''[[https://en.wikipedia.org/wiki/Citizen_science]]) oedd hwn. Efallai mai arwyddocad fwyaf yr ymarferiad yw dangos potensial y cyfryngau cymdeithasol i amlygu patrymau naturiol.
 
==Ffenoleg==