Cog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 44:
====Yr 21ain ganrif====
[[File:MapCogauCovid.jpg|thumb|Dosbarthiad fesul categor (0-3) niferoedd y cogau clywyd o erddi domestig dros Gymru yn ystod Caethiwio Covid19 hyd 10 Mai 2020]]
Yn ystod cyfnod unigryw [[Covid19]] yng ngwanwyn [[2020]] pan gafodd mwyafrif poblogaeth Cymru (a'r byd i gyd o ran hynny) eu caethiwo yn eu cartrefi o ail hanner mis Mawrth ymlaen, penderfynwyd cynnal ar [[Cymuned Llên Natur]] (Facebook) arolwg i statws y gog yng Nghymru trwy fanteisio ar yr amodau arbennig ymahyn. A beth oedd yr amodau?:- a) pawb yn gaeth i'w cartrefi a'i gerddi am amser hir (felly samplo cyson), b) arolygon o dywydd braf (cysoder amodau) a wireddwyd, c) y mwyafrif yn gyfarwydd â chân y gog, ac ch) poblogrwydd nodi'r 'cwcw gyntaf' a'r llên gwerin yn gysylltiedig â hynny. Prif fantais y sefyllfa hon oedd y cyfle gafwyd i bobl nodi faint o gogau y clywson nhw dros gyfnod penodol (gan gynnwys 'dim cogau')<ref>[[https://www.llennatur.cymru/Bwletinau ]](yn y wasg tan Gorffennaf 2020)</ref>. Dengys y canlyniadau ar y map yn gryno, bod y gog yn dal ei thir yn dda yn yr ucheldir rhwng, er enghraifft, Dolgellau a'r Bala ac ar grugdir Uwch Gwyrfai, Arfon, ond mae ei absenoldeb ym Môn, a gwastadeddau Arfon a Llŷn yn drawiadiol, gyda sefyllfa wan yn cael ei awgrymu ar sail llai o ddata yn y de orllewin ac yng Nghlwyd. Ymarferiad [[Gwyddoniaeth y Dinesydd]] (''Citizen Science''[[https://en.wikipedia.org/wiki/Citizen_science]]) oedd hwn. Efallai mai arwyddocad fwyaf yr ymarferiad yw dangos potensial y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig i amlygu patrymau naturiol.
 
==Ffenoleg==