Lol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cylchgrawn]] [[Cymraeg]] [[dychan]]ol yw '''''Lol'''''. Sefydlwyd y cylchgrawn gan Penri Jones a [[Robat Gruffudd]] ym [[Bangor|Mangor]] yn [[1965]]. Dyfeisiwyd yr enw [[Y Lolfa]] yn arbennig ar gyfer cyhoeddi'r cylchgrawn. Argraffwyd y ddau rifyn cyntaf gan gwmnïau yng [[Carndiffaith|Ngharndiffaith]] a [[Caerdydd|Chaerdydd]].
 
Y bwriad gwreiddiol oedd creu cylchgrawn ysgafn, poblogaidd ar gyfer pobl ifainc yn bennaf ond gyda chyhoeddi'r trydydd rhifyn yn 1967 yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967|Eisteddfod y Bala]] — y rhifyn cyntaf i'r Lolfa ei hun ei argraffu — cymerodd y cylchgrawn dro i gyfeiriad mwy [[dychan]]ol. Cafwyd prawf buan o hyn yn ymateb ffyrnig [[Albert Evans-Jones|Cynan]] i eiriau amdano a ymddangosodd ar draws bronnau rhyw ferch. Bygythiodd Y Lolfa ag achos enllib ond fe setlwyd y mater yn ddeheuig gan [[Robin Lewys]], yn gweithredu ar ran y cwmni, agyda chyfreithiwr Cynan.
 
Cafodd y cylchgrawn drafferthion cyfreithiol pellach â rhai o'r rhifynnau dilynol ond er yn gylchgrawn "gwrth-sefydliad" daeth yn sefydliad ynddo'i hun, ac yn ddarllen hanfodol i bob eisteddfodwr ar ei drec diwylliannol, blynyddol.
 
Cyhoeddwyd y cylchgrawn fwy neu lai yn ddi-dor dan wahanol enwau a gwahanol olygyddion ac yn enw gwahanol gwmnïau. Un o'r golygyddion mwyaf mentrus oedd [[Eirug Wyn]] a aeth i gryn drafferthion ariannol yn sgil stori a gyhoeddodd am berthynas cwmni teledu arbennig ag [[S4C]]. Yn nodweddiadol, feroedd wrthododdwedi gwrthod ymddiheuro am gynnwys y stori.
 
Ymddangosodd rhai rhifynnau dan yr enw '''''Dim Lol''''', dan olygyddiaeth Garmon Ceiro, ond wedi bwlch yn 2009, ailymddangosodd ''Lol'' dan ei enw gwreiddiol - ond mewn diwyg newydd, llawn-lliw - ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy yn 2010, a daw rhifyn arall allan eleni. Caiff y ''Lol'' newydd ei gyhoeddi gan gwmni newydd, Cwmni Drwg Cyfyngedig.
 
Mae ''Lol'', o dan ei wahanol enwau, yn gwerthu o gwmpastua 4,000 copi y flwyddyn, a hynny heb unrhyw gymorth ariannol gan y llywodraeth — un o'r ychydig iawn o gylchgronau Cymraeg a all honni hynny.
 
== Dolenni allanol ==