Diddymu'r mynachlogydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Abaty talyllychau.jpg|150px|bawd|[[Abaty Talyllychau]]|alt=]]
Digwyddodd '''diddymu'r mynachlogydd''' yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]] yn nheyrnasiad y brenin [[Harri VIII o Loegr]].
 
Roedd y [[mynachlog]]ydd [[Oesoedd Canol|canoloesol]] yn sefydliadau pwysig iawn yn hanes a diwylliant y ddwy wlad ond erbyn diwedd yr Oesoedd Canol roeddent wedi dirywio'n sylweddol. Ar un adeg roedd y mynachlogydd Cymreig - yn arbennig y tai [[Urdd y Sistersiaid|Sistersaidd]] - yn ganolfannau [[dysg]] a [[crefydd|chrefydd]] lle ceid nawdd a chroeso i'r beirdd. Dioddefodd y mynachlogydd o effeithiau economaidd a chymdeithasol y [[Pla Du]] yn y [[14g]] a'r rhyfeloedd niferus yn y [[15fed ganrif|ganrif olynol]]. Roedd yr [[Eglwys Gatholig|Eglwys]] ei hun wedi troi'n fydol ac roedd cyflwr y mynachlogydd yn adlewyrchu hynny. Roedd llawer ohonynt wedi gwerthu eu tiroedd i foneddigion lleol ac roedd nifer y [[mynach]]od yn isel.
 
Penderfynodd Harri VIII fod rhaid cael gwared â'r tai crefyddol fel rhan o'i ymgais i sefydlu ei hun fel pennaeth [[Eglwys Loegr]]. Anfonodd gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y ''Valor Ecclesiasticus'', iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o Blas Iolyn.<ref>{{Cite web|title=PRYS, ELIS (1512? - 1595?) (‘Y Doctor Coch’) o Blas Iolyn. {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PRYS-ELI-1512|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-06-14}}</ref> O ganlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn [[1536]] ac erbyn diwedd y ddegawd nid oedd yr un mynachlog ar ôl.<ref name=":0">{{Cite web|title=Y Mynachlogydd {{!}} Llyfrgell Genedlaethol Cymru|url=https://www.llyfrgell.cymru/gwasanaethau/addysg/adnoddau-dysgu/y-mynachlogydd|website=www.llyfrgell.cymru|access-date=2020-06-14}}</ref>
 
== Cefndir ==
Rhwng 1536 ac 1541 caewyd yr holl fynachlogydd a lleiandai yng Nghymru a Lloegr gan y brenin ar y pryd, Harri VIII a’i prif gynghorwr, [[Thomas Cromwell]]. Gwnaeth Harri hyn drwy basio deddf seneddol
 
yn 1534 oedd yn ei wneud yn bennaeth yr Eglwys, a dwy ddeddf arall yn 1536 ac 1539 oedd yn gorchymyn cau’r mynachlogydd llai yn gyntaf, a’r rhai mwy wedyn.
[[Delwedd:DSCN4297-strata-florida-arch.JPG|bawd|[[Abaty Ystrad Fflur|Ystrad Fflur]] yng Ngheredigion]]
Mae’n debyg fod y mynachod yn dechrau amau yn ystod y 1520au a’r 1530au y byddai rhai o’r mynachlogydd yn cael eu cau neu eu meddiannu. Oherwydd hyn aethant ati i roi tir ar brydles, neu hyd yn oed ei werthu mewn rhai mannau.
 
Roedd nifer o resymau pam oedd Harri VIII eisiau cau’r mynachlogydd.
 
Wedi iddo dorri ffwrdd oddi wrth [[Rhufain]] yn 1529 roedd Harri yn ymwybodol bod angen iddo osod ei awdurdod yn gadarn fel Pennaeth newydd [[Eglwys Loegr|Eglwys Lloegr]]. Roedd felly yn awyddus i ddod i reoli’r Eglwys yng Nghymru a Lloegr, a chredai y byddai’r mynachlogydd a’r mynachod yn ei rwystro rhag gwneud hynny. Roedd Gorymdaith y Pererindod Gras yng Ngogledd Lloegr dan arweiniad Robert Aske rhwng 1536-37 wedi dangos bod perygl gwrthryfel yn y wlad oherwydd gwrthwynebiad pobl main id y Pab bellach oedd arweinydd Eglwys Lloegr.
 
Roedd hefyd yn awyddus i gael ei ddwylo ar gyfoeth a thir y mynachlogydd. Roedd angen cronfa a chyflenwad da o arian arno er mwyn ariannu ei ryfeloedd a’i ffordd o fyw moethus ac roedd cyfoeth a digonedd y mynachlogydd yn diwallu yr angen yma. Roedd [[Abaty Ystrad Fflur|Ystrad Fflur]], ger [[Pontrhydfendigaid]], yng Ngheredigion yn enghraifft dda o fynachlog bwerus a chyfoethog oedd yn berchen ar lawer o dir ac yn chwarae rhan ganolog yn [[economi]], diwylliant a gwleidyddiaeth yr ardal. Yn ogystal â ffermio defaid ar y tir mynydd oedd yn eiddo iddi, roedd yn tyfu ceirch a gwenith ar dir yn nyffrynnoedd Aeron a Hafren, yn berchen ar felinau i falu grawn, corsydd i dorri mawn, llynnoedd a thir ger y môr i bysgota, a gerddi a pherllannau ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau. Ar ben hyn roedd yn cynhyrchu gwlân, yn rhentu tir i denantiaid, ac yn rhoi tir ar brydles.<ref name=":0" />
 
Un o ddadleuon Harri VIII dros ddiddymu’r mynachlogydd oedd nad oedd y mynachod yn ymddwyn fel yr oedd disgwyl iddyn nhw wneud. Roedden nhw i fod i fyw bywyd crefyddol a syml, a chynnig elusen a llety i bobl anghenus. Credai Harri nad oedd hyn yn wir am rai mynachod erbyn yr 16eg ganrif, a’u bod yn aml yn byw bywydau bras ac anfoesol. Y gwir amdani oedd bod Harri’r VIII eisiau cael gafael ar gyfoeth a thiroedd y mynachlogydd, a’i fod yn fodlon defnyddio unrhyw esgus dros wneud hynny.
<br />
 
== Archwilio’r mynachlogydd ==
Yn Ionawr 1535 apwyntiwyd comisiynau ar hyd a lled Cymru a Lloegr i gynnal arolwg o diroedd ac eiddo’r mynachlogydd a’r eglwys. Gofynnwyd i bobl eglwysig, gan gynnwys abadau, i roi tystiolaeth ar lw ynglŷn â’u hincwm a’r tiroedd oedd yn eu gofal, a rhoddwyd yr hawl i’r comisiynwyr archwilio eu llyfrau. Yr enw ar yr arolwg hwn oedd y ''Valor Ecclesiasticus''.
 
Roedd y ''Valor'' yn rhoi darlun clir i’r brenin o gyfoeth yr eglwys a’r mynachlogydd. Mae’n rhan allweddol o’r broses arweiniodd at gau’r mynachlogydd, ac yn ddogfen bwysig i haneswyr sy’n astudio’r cyfnod.<ref name=":0" />
 
== Cau’r Mynachlogydd ==
[[Delwedd:Neath_abbey.JPG|link=https://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Neath_abbey.JPG|alt=|bawd|250x250px|Adfeilion Abaty Nedd]]
O 1536 ymlaen dechreuwyd cau’r mynachlogydd yng Nghymru. Cafodd y rhan fwyaf eu diddymu bron yn syth, ond llwyddodd Ystrad Fflur, [[Abaty Nedd]] a [[Abaty Hendy-gwyn ar Daf|Hendy-gwyn ar Daf]] i aros ar agor drwy dalu dirwyon trwm i’r brenin. Yn y diwedd bu’n rhaid i bob mynachlog gau, ac ildio eu tiroedd ac eiddo i’r goron.
 
Mae’n debyg mai bwriad gwreiddiol Harri’r VIII wedi iddo gau’r mynachlogydd oedd rhentu’r tir i denantiaid a chynyddu incwm y goron. Serch hynny, roedd angen arian ar frys ar y brenin i dalu am ryfeloedd, ac aeth ati i werthu llawer iawn o’r tir. Fel arfer y bonedd lleol fyddai’n prynu’r tir, a daeth llawer o deuluoedd cyfoethog hyd yn oed yn fwy pwerus wedi iddyn nhw brynu tiroedd y mynachlogydd.
 
Cadwyd cofnod gofalus o’r holl diroedd oedd wedi dod i feddiant y brenin, a beth ddigwyddodd i’r tir hyn wedyn. Mae llawysgrif o Gasgliad Cwrtmawr, yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|y Llyfrgell Genedlaethol]] yn rhestru cyn eiddo Abaty Ystrad Fflur, enwau’r tenantiaid, a’r arian yr oedd yn rhaid iddyn nhw dalu. Mae mapiau ystadau tir cyfagos yn yr ardal yma, er enghraifft, Map Ystâd [[Nanteos]], yn dangos tiroedd oedd yn arfer bod yn rhan o Abaty Ystrad Fflur. Mae gweithredoedd eraill yn dangos ffermydd a thiroedd eraill oedd yn bellach i ffwrdd a oedd yn berchen i Ystrad Fflur, er enghraifft, yn ardal [[Llanfair-ym-Muallt]].<ref name=":0" />
 
== Canlyniadau cau’r mynachlogydd ==
Gyda chau’r mynachlogydd aeth cyfoeth yr Eglwys i gyd i ddwylo’r Brenin Harri’r VIII. Gwerthwyd y tiroedd i’r bonedd gyda llawer ohonynt yn dod yn gyfoethocach ac mewn amser yn dod yn ddigon cryf i herio pŵer y Brenin.
 
Wedi i’r mynachlogydd gau aeth rhai o’r mynachod i weithio fel offeiriaid, derbyniodd rhai bensiwn gan y brenin, tra bod eraill wedi mynd i weithio ar y tir. Bu’n rhaid i lawer hefyd droi at grwydro a chardota ar hyd y wlad gan eu bod mewn gwirionedd wedi colli eu swyddi.
 
Roedd cau’r mynachlogydd yn golled fawr i’r gymuned leol hefyd gan fod y fynachlog yn darparu gwaith i bobl lleol, yn gweithredu fel [[ysbyty]] ar gyfer cleifion ac hefyd yn rhoi llety a bwyd i bererinion a chardotwyr. Gyda chau’r mynachlogydd dioddefodd y grwpiau gwahanol yma o bobl.
 
Collwyd y mynachlogydd fel canolfannau dysg a diwylliant pwysig yng Nghyrmu. Cafodd y llawysgrifau oedd yn llyfrgelloedd y mynachlogydd eu prynu neu eu taflu, ac erbyn heddiw mae llawer wedi cael eu dinistrio neu eu colli.
 
== Cyfeiriadau ==
<references />
{{eginyn hanes}}