Agweddau Cristnogol i gaethwasiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 87:
=== Gwrthwynebiad Cristionogol i ddiddymiad ===
[[Delwedd:Q93862543-PG62023-frontis.jpg|bawd|chwith|George Whitefield]]
Mae darnau yn y Beibl ar ddefnyddio a rheoleiddio caethwasiaeth wedi cael eu defnyddio trwy gydol hanes fel cyfiawnhad dros gadw caethweision, ac fel arweiniad ar sut y dylid ei wneud. Felly, pan gynigiwyd diddymu, siaradodd rhai Cristnogion yn selog yn ei erbyn, gan nodi bod y Beibl yn derbyn caethwasiaeth fel 'prawf' ei fod yn rhan o'r cyflwr arferol. Ymgyrchodd [[George Whitefield]] yn Nhalaith Georgia, i gyfreithloni caethwasiaeth, <ref name="Cashin">Edward J. Cashin, ''Beloved Bethesda : A History of George Whitefield's Home for Boys'' (2001)</ref> <ref>Arnold Dallimore, ''George Whitefield: The Life and Times of the Great Evangelist of the Eighteenth Century'' (1980), Volume 2</ref> Roedd caethwasiaeth wedi ei wahardd yn Georgia, ond cafodd ei gyfreithloni ym 1751 oherwydd ymdrechion Whitefield i raddau. Prynodd gaethweision Affricanaidd i weithio yn y cartref i blant amddifaid a sefydlodd yn Georgia. Etifeddodd [[Selina Hastings, Iarlles Huntingdon]] y cyfrifoldeb am y cartref wedi marwolaeth Whitefield, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros y caethweision. Ysgrifennodd [[William Williams (Pantycelyn)|William Williams, Pantycelyn]] emynau ar gais Arglwyddes Huntingdon i'w defnyddio yn y cartref i blant amddifaid, ond ni olygai hynny fod Williams yn cymeradwyo caethwasiaeth. Ef oedd y cyntaf i gondemnio'r gaethfasnach mewn print yn y Gymraeg, yn ei gyfrol ''Pantheologia'' yn 1762, ac ef hefyd oedd y cyntaf i gyfieithu 'slave narrative' i'r Gymraeg, yn 1779, gwaith a aeth yn fuan i ail argraffiad ac a fraenarodd y tir ar gyfer yr ymgyrchu mawr dros ddileu caethwasiaeth a gododd yn y 1780au. Dadl Williams yn 1762 yn erbyn y gaethfasnach a'i chreulonderau oedd bod dynion duon o'r 'un rywogaeth' â dynion gwynion, a chan fod 'y grefydd Gristnogol yn gorchymyn i bawb i wneuthur fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwy', y dylid eu trin 'fel dynion ag sydd a'r un Duw ac a'r un Crist wedi marw drostynt'.<ref>{{Cite web|title=Welsh ballads and American slavery (2007)|url=https://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/slavery|website=Prifysgol Caerdydd|access-date=2020-06-12|language=cy}}</ref><ref>{{Cite web|title=Caethwasanaeth a'r beirdd, 1790-1840 (2003)|url=https://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/caethwasanaeth-ar-beirdd|website=Prifysgol Caerdydd|access-date=2020-06-15|language=cy}}</ref>
 
Yn Ewrop a'r Unol Daleithiau aeth rhai Cristnogion ymhellach, gan ddadlau bod caethwasiaeth wedi'i chyfiawnhau gan eiriau ac athrawiaethau'r Beibl.