Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Adolf Hitler"

Ychwanegwyd 5,464 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Wedi gwrthdroi golygiadau gan 2.29.231.169 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Adda'r Yw.)
Tagiau: Rollback
No edit summary
}}
 
Roedd '''Adolf Hitler''' ([[20 Ebrill]] [[1889]] – [[30 Ebrill]] [[1945]]) yn arweinydd [[Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol]] ''(Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei)'' yn [[yr Almaen]] (a adnabyddiradnabyddwyd fel [[Natsïaeth|Plaid y Natsïaid]]Blaid Natsïaidd) aac yn nes ymlaen daeth yn Ganghellor ac yna Führer yr Almaen gyfan (und Reichskanzler (arweinydd a changhellor) [[yr Almaen]]. Ef sefydlodd y [[Yr Almaen Natsïaidd|Drydedd Reich]] ([[1933]]–[[1945]]). Ar [[30 Ebrill]] [[1945]] fe wnaeth Hitler gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn y fwncr o ddan y Canghellordy yn [[Berlin]].
 
Fe'i ganwyd yn [[Braunau am Inn]], [[Awstria]]. YmgaisEi Hitlerymgais i greu Almaen Fwy (''Großdeutschland'') {{angen ffynhonnell}} gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad [[Tsiecoslofacia]] a [[Gwlad Pwyl]] oedd wrth wraidd yr  [[Ail Ryfel Byd]].
 
Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o [[gwrthGwrth-Semitiaeth|wrth-Semitiaeth]] a arweiniodd yn y pendraw at [[yrYr Holocost|ymgais]] i ddileu'r [[Iddew|Iddewon]]on yn gyfan gwbl o [[Ewrop]]. Dyma oedd Yr Holocost.<ref>{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2016-17/16-17_2-15/cym/Datblygu-rhyfela.pdf|title=Datblygu rhyfela|date=|access-date=15 Mehefin 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Ar [[30 Ebrill]] [[1945]] cyflawnodd hunanladdiad, gyda’i wraig, Eva Braun, drwy gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn ei fyncer o dan y Canghellordy yn Berlin.
Am gyfnod hir roedd [[Eva Braun]] yn feistres iddo. Cyflawnodd hunanladdiad yn y byncer yn Berlin gyda Hitler.
 
== Bywyd cynnar ==
Ganwyd Adolf Hitler ar Ebrill 20, 1889 yn nhref fach [[Braunau am Inn]], yn [[Awstria]]. Roedd ei dad yn swyddog tollau o Awstria a phan oedd Hitler yn dair mlwydd oed symudodd i fyw i’r Almaen. Cyn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], methodd ei ymgais i hyfforddi fel artist a wynebodd dlodi a chaledi yn [[Fienna]].
 
== Rhyfel Byd Cyntaf  ==
Newidiodd ei fywyd pan wasanaethodd ym myddin yr Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf: enillodd fedalau am ddewrder (y Groes Haearn) a chafodd ei ddewis gan y fyddin ar ôl y rhyfel i gymryd rhan mewn uned bropaganda er mwyn atal comiwnyddiaeth rhag lledaenu yn y fyddin. Roedd y fyddin wedi cydnabod ei ddawn i argyhoeddi wrth siarad yn gyhoeddus. Fel llawer o gyn-filwyr, roedd cadoediad 1918 a thelerau [[Cytundeb Versailles]] wedi ei arswydo. Teimlodd atgas at y Cytundeb oherwydd credai bod yr Almaen wedi cael ei thrin yn gywilyddus ac wedi cael ei gorfodi i golli cymaint o’i phŵer milwrol a morwrol, colli tir, talu iawndal a derbyn y cyfrifoldeb am gychwyn y rhyfel. I ychwanegu at y gwarth roedd y cytundeb wedi bod yn ''diktat'' a orfodwyd ar yr Almaenwyr.<ref name=":0">{{Cite web|url=http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2015-16/14-15_09/1Almaen.pdf|title=Datblygiad yr Almaen|date=|access-date=15 Mehefin 2020|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref><ref>{{Cite web|title=Cytundeb Versailles|url=https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/a9997049-967e-4016-a01f-86f8bc41ae18/cy|website=hwb.gov.wales|access-date=2020-06-15|language=cy|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Codi i rym ==
 
=== Ymuno gyda phlaid newydd ===
O ganlyniad i’w waith yn yr uned [[Propaganda|bropaganda]], dechreuodd Hitler gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth adain dde. Yn 1919, roedd Anton Drexler wedi sefydlu Plaid Gweithwyr yr Almaen, sef plaid genedlaetholgar i’r dosbarthiadau gweithiol. Newidiwyd enw’r blaid yn nes ymlaen i’r [[Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol|Blaid Natsïaidd]]. Cyn hir, cymerodd Hitler reolaeth o’r blaid ei hun a daeth yn arweinydd y blaid yn lle Drexler yn 1921.
 
Roedd y blaid eisiau dymchwel Cytundeb Versailles ac uno’r holl bobl Almaeneg eu hiaith, yn enwedig y rhai mewn tiroedd a gollwyd gan y cytundeb, mewn Almaen fwy. Roedd y blaid yn hiliol ac yn [[Gwrth-Semitiaeth|wrth-Semitig]], a hynny’n agored. O dan arweinyddiaeth Hitler, aeth y blaid yn fwy treisgar a bygythiol: cafodd uned baramilwrol, o’r enw’r SA, ei sefydlu i warchod cyfarfodydd y blaid ac i darfu ar gyfarfodydd pleidiau eraill, yn enwedig pleidiau adain chwith. Cafodd [[Hermann Göring|Hermann Goering]], arwr ifanc o’r awyrlu, ei benodi’n arweinydd cyntaf yr SA neu’r ‘Crysau Brown’ fel y byddent yn cael eu galw. Roedd yr SA yn gwneud fel y mynnont, gan ymosod ar bawb a allai wrthwynebu’r Natsïaid . Cyn hir roeddent yn enwog am gieidd-dra ac ymddygiad bygythiol. Y swastica oedd arwyddlun y Natsïaid.
 
=== Putsch Munich ===
Erbyn 1923, arweiniodd goresgyniad y Ruhr a’r gorchwyddiant at awyrgylch o argyfwng yn yr Almaen. Credai Hitler mai hon oedd yr adeg gywir i geisio cipio grym drwy lansio chwyldro yn [[Bafaria]], yn y brifddinas yn [[München]]. Roedd Hitler yn gobeithio bod modd perswadio llywodraeth adain dde Bafaria i ymuno ag ef. Cafodd Hitler gefnogaeth gan y Cadfridog Ludendorff, un o arwyr yr Almaen yn y rhyfel, ac ar 8 Tachwedd 1923, syfrdanodd Hitler a’r SA gyfarfod o lywodraeth Bafaria drwy frasgamu i mewn i’r cyfarfod, tanio pistol i’r nenfwd a bwlio arweinwyr Bafaria i ymuno â’r hyn yr oedd Hitler yn ei alw’n ‘chwyldro cenedlaethol’. Collodd yr ymgais ar Putsch gefnogaeth yn gyflym yn München, a saethodd yr heddlu at orymdaith a arweiniwyd gan Hitler a Ludendorff: lladdwyd 16 o bobl.
 
Yn sgil eu rhan yn nhrefnu ac arwain y Putsch ym München cafodd Hitler a Ludendorff eu dwyn i brawf am frad. Roedd yr achos llys yn gyfle i Hitler ddod yn adnabyddus ledled yr Almaen drwy wneud areithiau hir a gafodd eu cyhoeddi mewn papurau newydd wedyn. Roedd yr achos llys yn llwyfan propaganda gwych i Hitler. Yn y diwedd, cafwyd Ludendorff yn ddieuog, er mawr anfodlonrwydd iddo, a chafodd Hitler ddedfryd gymharol ysgafn, sef pum mlynedd yn y carchar. Yng ngharchar Landsberg, defnyddiodd Hitler y cyfle i ysgrifennu ei hunangofiant ''[[Mein Kampf]]'' (Fy Mrwydr) a nododd ei brif syniadau. Oherwydd ei ymddygiad da yn y carchar, cafodd llywodraeth Bafaria ei pherswadio i’w ryddhau ar ôl naw mis yn unig. Bellach, roedd yn rhaid i Hitler ailystyried ei strategaeth i ennill grym; sylweddolodd ar ôl y profiad yn München na allai ddibynnu ar drais yn unig i wneud hyn. Sylweddolodd y byddai’n rhaid iddo ceisio ennill pŵer yn yr Almaen drwy ddulliau [[Democratiaeth|democrataidd]], sef drwy ennill etholiadau. Trodd ei sylw felly tuag at ennill mwy o gefnogaeth i’r Blaid Natsïaidd ymhlith bobl yr Almaen ac yn yr etholiadau fyddai’n cael eu cynnal yn y blynyddoedd dilynol.<ref name=":0" /><ref>{{Cite web|title=The Munich Putsch|url=https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=391&langChange=cy-GB|website=resources.wjec.co.uk|access-date=2020-06-15|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Ffilmiau ==
* Kershaw, Ian. ''Hitler'' (Penguin, 2009).
 
== Cyfeiriadau ==
<references />
{{dechrau-bocs}}
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Kurt von Schleicher]] | teitl = [[Canghellorion yr Almaen|Canghellor yr Almaen]] | blynyddoedd = [[30 Ionawr]] [[1933]] – [[30 Ebrill]] [[1945]]| ar ôl = [[Joseph Goebbels]]}}