Llyfrgell Brydeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Britaniya Milli Kitabxanası
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
2=
Llinell 2:
[[Llyfrgell]] genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r '''Llyfrgell Brydeinig'''. Lleolir y llyfrgell yn [[St. Pancras]], [[Llundain]], mae'n un o [[Rhestr llyfrgellau ymchwil|lyfrgellau ymchwil]] pwysica'r byd, mae'n dal drost 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat; [[llyfr]]au, [[newyddiadur]]on, [[papur newydd|papurau newydd]], [[cylchgrawn|cylchgronnau]], recordiau [[sain]] a cherddoriaeth, [[breinlen]]i, [[bas ddata|basau data]], [[map]]iau, [[stamp]]iau, [[argraffiad]]au, [[darlun]]iau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 25 miliwn o lyfrau,<ref>[http://www.britannica.com/eb/article-9016525 Encyclopædia Britannica Article: British Library]</ref> ynghyd a casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 300[[Cyn Crist|CC]].
 
=== Llawysgrifau Cymraeg = ==
Cedwir sawl [[llawysgrifau Cymreig|llawysgrif Gymraeg]] yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y [[Gwyneddigion]] yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, yn y dyddiau cyn sefydlu [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]. Maent yn cynnwys casgliadau'r [[Morysiaid Môn|Morysiaid]], yn cynnwys rhai yn llaw [[Lewis Morris]] ei hun, ac eraill a gasglwyd gan [[Owain Myfyr]] ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Llundain]]